Darlithydd mewn Celf Gemau (2526436)

Company: Cardiff Metropolitan University
Apply for the Darlithydd mewn Celf Gemau (2526436)
Location: Cardiff
Job Description:

Y cyfle

Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy’n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno Celf Gemau a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysyd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Beth rydym yn chwilio amdano

  • Lefel dda o wybodaeth sy’n berthnasol i’r pwnc a’r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
  • Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
  • Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
  • Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i nodi meysydd i’w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd – cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
  • Profiad o addysgu neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).

Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â’r Sarah Smith, Pennaeth yr Adran ar smsmith@cardiffmet.ac.uk.

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Defnyddir y fanyleb person fel arf ar gyfer llunio rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais trwy ymweld â’n tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 16 Jun 2026

Ysgol/Uned: Academaidd

Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn pro rata

Contract tymor penodol tan 31/07/2027

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 6th, 2026