Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Company: Neath Port Talbot County Borough Council
Apply for the Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2
Location: Port Talbot
Job Description:

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Job description

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Dros Dro x 2

 32.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

(yn cynnwys 2.5 awr yr wythnos dyletswydd cinio)

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi 2 unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos. Mae’r swydd yma am 32.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn (yn cynnwys 2.5 awr yr wythnos dyletswydd cinio). 

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau ar gyfer llythyr cais 12.00 canol dydd, Dydd Mercher, Mehefin 17eg 2026.

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Castell Nedd for which the ability to speak Welsh is essential

Posted: June 12th, 2026