DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Mae Corff Llywodraethol Ffederasiwn CWLWM yn awyddus i benodi Cymhorthydd Dosbarth profiadol a chymwys sy’n frwd dros ADY ac addysg cyfrwng Cymraeg i weithio mewn adnodd ar gyfer dysgwyr ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol yn Ysgol Maes Garmon.
Sefydlwyd yr adnodd ym Medi 2025, ac erbyn Medi 2026 fe fydd wedi ehangu i dderbyn mwy o ddysgwyr o glwstwr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Sir Y Fflint.
Byddai disgwyl i'r Cymhorthydd Dosbarth gefnogi dysgwyr mewn amryw o ffyrdd – ar lefel 1 i 1, mewn grwp bach neu mewn dosbarth prif ffrwd.
Telerau'r swydd:
Graddfa gyflog Statws Sengl Sir y Fflint 1.2 Cefnogi Dysgu (Learning Support)
Pro rata £17,452 – £18,004
Cytundeb 30.45 awr yr wythnos. 38 wythnos & 5 diwrnod HMS, amser tymor yn unig.
Cytundeb blwyddyn neu barhaol.
Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth. Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Maes Garmon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Safeguarding Statement
Ysgol Maes Garmon is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.