Health And Safety Manager

Company: Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Apply for the Health And Safety Manager
Location: Nantgarw
Job Description:

Rheolwr Iechyd a Diogelwch ar y Safle, Y Ganolfan Gasgliadau / Site Based Health and Safety Manager, National Collections Centre

Math o swydd wag – Tymor Sefydlog/Llawn Amser

Cliciwch ar y ddolen i wneud cais – Cymraeg

A ninnau’n sefydliad cenedlaethol, mae sicrhau diogelwch y staff, yr ymwelwyr, y contractwyr a’r casgliadau yn hanfodol. Bydd y rôl hon yn rhoi arweinyddiaeth proffesiynol mewn Iechyd a Diogelwch yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol a Sain Ffagan yn bennaf, gan helpu’r rheolwyr a’r timau i ymgorffori systemau gwaith diogel, rheoli risg yn rhagweithiol, a chydymffurfio â chyfrifoldebau statudol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â’r tîm Iechyd a Diogelwch, Pennaeth y Safle a swyddogaethau eraill i hybu diwylliant diogelwch cadarnhaol a sicrhau bod gweithgareddau amrywiol yr Amgueddfa, o ddigwyddiadau cyhoeddus i waith cadwraeth arbenigol, yn cael eu cyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol.

Prif Ddiben y Swydd

Arwain, cydlynu a gwella’n barhaus reolaeth Iechyd a Diogelwch yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol a Sain Ffagan trwy ddarparu arbenigedd, goruchwyliaeth a sicrwydd proffesiynol. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod systemau cadarn ar waith i nodi, asesu a rheoli risgiau, helpu’r rheolwyr i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol, datblygu a gweithredu gweithdrefnau perthnasol, a hybu diwyllict lle mae diogelwch yn cael y flaenoriaeth ym mhob gweithgaredd. Bydd y rôl yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth, yn cefnogi ymchwiliadau, yn hybu arferion da ac yn cyfrannu at effeithiolrwydd gweithredol a nodau strategol yr Amgueddfa.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 6th, 2026