Restore Nature Delivery Manager

Company: National Trust
Apply for the Restore Nature Delivery Manager
Location: Caernarfon
Job Description:

Summary

Rheolwr Cyflawni Adfer Natur Mae yna gyfle arbennig iawn yn Eryri, Môn a Llŷn i gyflogi Rheolwr Adfer Natur. Rôl newydd ei sefydlu o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i arwain ar ein huchelgais cefn gwlad a helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan greu rhwydwaith cenedlaethol i adfer natur.Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ein cynlluniau tair a deng mlynedd a fydd yn ein gyrru i gyflawni cadwraeth tirwedd sylweddol dros 60,000 erw o dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol eiconig a nifer o safleoedd dynodedig eraill. Yn ogystal, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’n tenantiaid a’n porwyr i lunio busnesau fferm gyda natur wrth eu calon a chyda sefydliadau eraill. Byddwn hefyd yn edrych i weithio’n ehangach gyda phartneriaid ar draws ein tir a thu hwnt i’n ffiniau i alluogi adfer natur ar raddfa fwy.Gwnewch gais trwy atodi CV a llythyr eglurhaol. Mae’r swydd yn 0.9FTE (4½ diwrnod neu gyfwerth).Bydd y gallu i gyfathrebu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.**Please note, an English copy of this advert is available in the attachments**

What it’s like to work here

Byddwch yn arwain tîm o Geidwaid profiadol iawn, o’r radd flaenaf, sy’n cyflawni ein huchelgeisiau natur, darpariaeth mynediad, a rheoli ystadau. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich rôl gan gydweithwyr eiddo, rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys Cynghorydd Defnydd Tir a Natur, Uwch Reolwr Ystadau, Rheolwr Cyffredinol a thîm arweinyddiaeth ehangach o fewn yr eiddo.Fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth Eiddo, byddwch yn helpu i lunio’r Grŵp Eiddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ar draws ucheldiroedd o bwys rhyngwladol gan gynnwys mawndiroedd, coetiroedd sydd hefyd wedi eu dynodi fel fforestydd glaw tymherus, ardaloedd arfordirol, a mwy.

What you’ll be doing

Fel y Rheolwr Adfer Natur, byddwch yn arwain yn strategol yn Eryri, Môn a Llŷn ar gadwraeth natur er mwyn cefnogi ein gweledigaeth. Mae’n her gyffrous, gan ein bod yn rheoli’r dirwedd i sicrhau ei bod yn wydn i effeithiau newid hinsawdd ac yn gallu helpu i ymateb i’r argyfwng natur.Byddwch yn gweithio ar lefel strategol i arwain a chyflawni ein cynlluniau i wella’r dirwedd, gan gydbwyso hyn â’r galw cynyddol gan ein cefnogwyr i gael mynediad at yr awyr agored a’i fwynhau.Agwedd allweddol o’ch rôl fydd cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, ein cymdogion a’n tenantiaid – ni allwn wneud popeth ein hunain ac os ydym am weithio ar gyflymder rhaid i ni gydweithio a phartneriaid ag eraill.

Who we’re looking for

• arbenigedd ecolegol neu reoli tir wedi’i gymhwyso i adfer natur ar raddfa tirwedd• sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu i ysbrydoli timau, gwirfoddolwyr a phartneriaid• gallu i ddylanwadu a negodi’n effeithiol i gyflawni canlyniadau uchelgeisiol ar y cyd• gwydn ac addasadwy, gydag arddull gweithio gydweithredol ac ymrwymiad i ymgysylltu cynhwysol• llwyddiant profedig yn arwain newid a chyflawni atebion arloesol ar gyfer natur, cymunedau a gwydnwch hinsawdd• eiriolwr ymroddedig a beiddgar dros yr amgylchedd naturiol, yn gallu rhannu gwybodaeth a brwdfrydedd â chynulleidfaoedd amrywiol trwy ddulliau wedi’u teilwra• dealltwriaeth gref o gydymffurfiaeth, rheoli risg a goruchwylio contractwyr• meddyliwr strategol yn gallu llunio gweledigaeth hirdymor sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau rhanbarthol a chenedlaethol

The package

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ’I bawb, am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.

-Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

-Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)

-Cynllun benthyciad blaendal rhent

-Benthyciad tocyn tymor

-Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema

-Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.

-Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl

-Rhaglen cynorthwyo cyflogai

-Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

Posted: July 1st, 2026