Human Resources Officer

Company: Senedd
Apply for the Human Resources Officer
Location: Cardiff
Job Description:

Fel Swyddog Adnoddau Dynol bydd gennych rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaeth adnoddau dynol proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sy’n cefnogi staff a rhanddeiliaid uwch ar draws y sefydliad.

Byddwch wrth wraidd gweithrediadau o ddydd i ddydd a byddwch yn berson cyswllt cyntaf o fewn y tîm ar gyfer ymholiadau staff a byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o brosesau gweinyddol Adnoddau Dynol, gan gynnwys dechreuwyr newydd, y cyfnod prawf a rheoli absenoldeb.

Mae hon yn swydd amrywiol a gwerth chweil ble byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ar draws sawl swyddogaeth AD, yn cyfrannu at gynnal systemau a chofnodion cadarn, ac yn helpu i sicrhau profiad llyfn a chefnogol i weithwyr. Mae’n gyfle delfrydol i rywun sy’n awyddus i ddatblygu neu wella eu harbenigedd AD o fewn sefydliad deinamig, sy’n canolbwyntio ar bobl.

  • Ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac i fewnflwch y tîm mewn ffordd brydlon ac effeithlon, gan gynnwys ymholiadau’n ymwneud ag iTrent (y system Adnoddau Dynol) a Flexi (adrodd amser).
  • Cysylltu â gwahanol gwsmeriaid mewnol ac allanol, megis staff y Comisiwn ac uwch swyddogion.
  • Cyfansoddi gohebiaeth a dogfennau clir a chywir, gan gynnwys llythyrau yn cadarnhau newidiadau cytundebol megis newid oriau, newid swydd, absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, dechreuwyr newydd, rhai sy’n gadael.
  • Prosesu’r holl waith papur cysylltiedig â dechreuwyr newydd gyda’r Senedd.
  • Sicrhau bod yr holl gamau gweithredu’n cael eu cwblhau mewn perthynas â’r broses brawf.
  • Cefnogi prosesau rheoli absenoldeb, gan gynnwys: monitro nodiadau addasrwydd, sicrhau bod gwybodaeth am absenoldeb ar iTrent yn gywir, mynd i bob cyfarfod absenoldeb ac ymgymryd â chamau gweithredu a ddyrannwyd.
  • Darparu cymorth o ran Iechyd Galwedigaethol, gan gynnwys monitro’r mewnflwch, a gwneud a threfnu apwyntiadau.
  • Anfon negeseuon e-bost wythnosol ‘Cadw mewn Cysylltiad’ at y rhai sydd ar hyn o bryd ar seibiant gyrfa, secondiad, mamolaeth, tadolaeth, y rhai sydd ar absenoldeb hirdymor ac ati.
  • Trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau yn y cnawd, gan gynnwys trefnu lletygarwch ac archebu ystafelloedd, a gwneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd rhithwir/hybrid.
  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd, helpu i lunio a dosbarthu agendâu a phapurau a gweithredu fel un sy’n cymryd nodiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r swydd a sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu storio/cofnodi at ddibenion archwilio.
  • Rheoli cofnodion, trefnu gwybodaeth a chynnal a chadw systemau ar gyfer cofnodi ac adalw.
  • Prosesu archebion prynu, talu anfonebau a chofnodi gwariant yn unol â hynny.
  • Ymgymryd â dyletswyddau sy’n cyfateb i lefel y swydd.

Penodol i’r swydd:

  • Sgiliau TG rhagorola hyfedredd o ran rhaglenni Microsoft Office.
  • Sgiliau pobl a chyfathrebu rhagorol gyda ffocws penodol ar ofal o gwsmeriaid a gallu i ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif gyda gofal a sensitifrwydd..
  • Gallu amlwg i weithio gan ddefnyddio eich crebwyll eich hun tra’n defnyddio’r cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i chi.
  • Cywirdeb a sylw rhagorol i fanylion, ynghyd â sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol a’r gallu i ymateb yn gyflym i ofynion sy’n newid.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 18th, 2026