Summary
Ceidwad Ardal
Rydym yn chwilio am geidwad cefn gwlad profiadol sy’n barod am her newydd! Fel Ceidwad Ardal, byddwch yn gweithio ar reng flaen cadwraeth natur a rheoli tir, gan reoli tîm ymroddgar o geidwaid mewn tirwedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt ac sy’n agos at galonnau pobl.
Cyflog: £29,479 y flwyddyn
Hyd y Contract: Parhaol
Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Yr oriau gweithio craidd yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am tan 4.00pm. Mae yna hyblygrwydd o ran sut mae’r oriau hyn yn cael eu gweithio; fodd bynnag dylai ymgeiswyr ddisgwyl gweithio ar draws pum diwrnod bob wythnos. Mae’n bosibl y bydd gweithio gyda’r nos ac ar benwythnos yn ofynnol o bryd i’w gilydd.
The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 5 in speaking and listening and Level 4 in reading and writing. Please assess your level by completing the attached Welsh Language Competency Matrix.
The English translation of this advert is available in the attachments.
What it’s like to work here
Byddwch wedi’ch lleoli yn Craflwyn, ger Beddgelert, ar gyfer rôl ymarferol sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o dasgau ar draws amrywiol dirweddau a mathau o gynefinoedd, a hynny ym mhob tywydd.
Byddwch yn gweithio’n bennaf ar draws yr ystâd 9,000 erw yn Eifionydd, gyda Beddgelert yn ganolbwynt ac yn ymestyn i Faentwrog, Cricieth a Dinas Dinlle. Mae’r rôl yn cynnwys helpu i reoli a gofalu am amrywiaeth o amgylcheddau, gan gynnwys coetiroedd newydd a hynafol, meithrinfa goed, perllannau, dolydd, pyllau, rhandiroedd a thir amwynderau.
Byddwch yn rhan o dîm bach a chefnogol, gan weithio’n annibynnol o bryd i’w gilydd ac, ar adegau eraill, yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr a thimau o wirfoddolwyr. Bydd y rôl yn golygu cryn dipyn o weithio ar eich pen eich hun, felly bydd angen i chi fod yn hunangymhellol ac yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol.
What you’ll be doing
Bydd eich gwaith yn helpu i warchod a gwella’r dirwedd, gan sicrhau y gall pawb ei mwynhau, am byth. Bydd eich dyletswyddau fel Ceidwad Ardal yn cynnwys:
Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi gael yr holl wybodaeth, yr holl sgiliau na’r holl brofiadau sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; diben y proffil hwn yw dangos yr hyn sy’n bosibl yn y rôl hon.
Who we’re looking for
Rydym yn chwilio am rywun sy’n:
The package
YrarwyddairsyddwrthwraiddyrYmddiriedolaethGenedlaetholyw’Ibawb, ambyth’.Rydymyngweithio’ngaledigreudiwylliantcynhwysol,llemaepawbynteimloeubodynperthyniddo.Mae’nbwysigbodeinpoblynadlewyrchuacyncynrychioliamrywiaethycymunedaua’rcynulleidfaoeddyrydymyneugwasanaethu.Rydymyncroesawuacyngwerthfawrogigwahaniaeth, felly panddywedwneinbodargyferpawb,rydymeisiauibawbdeimlo’ngartrefolyneintimauhefyd.
…
