Meithrin gwybodaeth gadarn a chynrychioladol o’r boblogaeth y mae TrC yn ei gwasanaethu, yn ogystal â chynorthwyo a llywio penderfyniadau strategol ar draws y meysydd marchnata, profiad cwsmeriaid, brandio a’r busnes yn ehangach. Gan ganolbwyntio ar ymddygiad ac agweddau teithio, bydd deiliad y swydd yn arwain dull TrC o ymdrin ag ymchwir a gwybodaeth, gan ddod yn arbenigwr pwnc y sefydliad ac yn hyrwyddwr gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cyfrifoldebau’r swydd
- Arwain a datblygu tîm ymchwil a gwybodaeth cydweithredol drwy sefydlu prosesau, safonau a llywodraethiant clir i sicrhau bod gwybodaeth amserol o ansawdd uchel yn cael ei darparu. Rhaid i’r wybodaeth gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau a llywio effaith ystyrlon ar draws blaenoriaethau masnachol a strategol.
- Darparu gwybodaeth gynrychioliadol a dibynadwy am gwsmeriaid, cwsmeriaid posibl a rhanddeiliaid drwy ddadansoddi ein data demograffeg a segmentu cwsmeriaid i lywio penderfyniadau allweddol a chefnogi nodau masnachol a strategol.
- Bod yn arbenigwr pwnc dibynadwy drwy hyrwyddo a gwreiddio dull strategol TrC o ymdrin ag ymchwir a gwybodaeth, cynyddu ei ddylanwad ar benderfyniadau allweddol, a chyflawni nodau masnachol a strategol.
- Cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i arwain y gwaith o ddatblygu dangosfwrdd segmentu TrC drwy alluogi penderfyniadau wedi’u targedu sy’n seiliedig ar ddata i sicrhau ei bod yn dod yn gonglfaen strategol i ddull ymchwil a gwybodaeth y sefydliad.
- Arwain y gwaith o ddatblygu proses dadansoddi a modelu marchnata (MMM) TrC drwy gydweithio â rhanddeiliaid mewnol allweddol, i sicrhau ei bod yn cynhyrchu canlyniadau cadarn ac yn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau allweddol ynghylch marchnata a brandio.
- Rhoi sail i benderfyniadau ynghylch marchnata strategol, profiad cwsmeriaid, brand, a phenderfyniadau eraill drwy ddadansoddi a dehongli data, gwybodaeth a mewnwelediad cymhleth o amrywiaeth o ffynonellau i gyflwyno canfyddiadau.
- Datblygu a chynnal cynllun ymchwil a gwybodaeth blynyddol drwy alinio ag amcanion corfforaethol ac anghenion busnes i lywio penderfyniadau allweddol, pennu cyllidebau a blaenoriaethau strategol.
- Cynorthwyo â’r gwaith o wneud penderfyniadau strategol drwy ddatblygu llwyfan Dweud eich Dweud TrC i recriwtio a chynnal panel cynrychioladol, gan alluogi’r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth ystyrlon sy’n adlewyrchu lleisiau amrywiol.
- Arwain y gwaith o gaffael technoleg a gwasanaethau sy’n cefnogi dull ymchwir a mewnwelediad strategol TrC drwy nodi ac argymell llwyfannau i sicrhau bod yr offer yn addas i’r diben, yn raddadwy, ac yn galluogi deallusrwydd o ansawdd uchel y gellir gweithredu arno.
- Dylanwadu ar arferion gorau lle bo hynny’n berthnasol drwy ymgysylltu â chyrff y diwydiant a sefydliadau cymheiriaid i feithrin arbenigedd, ac i sicrhau bod TrC yn elwa o’r wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Gradd mewn marchnata neu faes cysylltiedig (gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr neu ymchwir i’r farchnad)/ neu brofiad o weithio mewn swydd debyg.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion ymchwir i’r farchnad defnyddwyr/cwsmeriaid a’u defnydd mewn amgylchedd busnes.
- Profiad o asesu gofynion busnes cymhleth a phennu / argymell y dull ymchwir mwyaf priodol i ddarparu gwybodaeth gynrychioliadol.
- Profiad amlwg o ddadansoddi a dehongli data meintiol ac ansoddol i gyflwyno canfyddiadau a gwneud argymhellion strategol a thactegol.
- Profiad o ddrafftio adroddiadau, cyflwyniadau a chynnwys arall yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau strategol.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Mae TrC yn nodi diwylliant a phobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
#J-18808-Ljbffr…
