DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Dyma swydd llawn amser parhaol.
Yn eisiau ar gyfer Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
Dymuna’r corff llywodraethol benodi arweinydd arloesol ac ysgogol iawn i arwain a datblygu ymhellach addysg o ansawdd uchel yn yr ysgol bentref hon sydd wrth wraidd cymuned Croesgoch, yn agos at yr arfordir hardd yng ngogledd Sir Benfro. Mae’r ysgol yn cynnig cyfleusterau addysgu rhagorol ac yn cynnal y Cylch Meithrin lleol. Trosodd yr ysgol i fod yn ysgol Gymraeg ym Medi 2025.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
Ymarferydd brwdfrydig a fydd yn darparu addysgu o safon uchel gan fod y swydd yma yn gofyn am elfen o addysgu
Siaradwr Cymraeg rhugl a chyfathrebwr rhagorol sy’n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni
Lysgennad i barhau i hyrwyddo diwylliant ac iaith Cymru
Gallu darparu arweinyddiaeth broffesiynol ragorol sy’n sicrhau, mewn partneriaeth â disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni, y gymuned ehangach a’r awdurdod lleol, llwyddiant a gwelliant ysgol
Y gallu i ddatblygu tîm o staff sydd wedi’u hysgogi ac sydd â’r sgiliau i helpu pob plentyn i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfartaledd o ran cyfleoedd i’r holl ddisgyblion, waeth beth fo eu hanghenion
Gallu gweithio’n gydweithredol i ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm sy’n cyfoethogi, yn denu ac yn ysgogi’r disgyblion oll.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
Sgiliau arweinyddiaeth a rheoli rhagorol i gynllunio’n strategol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a rhagori mewn dysgu ar draws ystod oed yr ysgol
Syniad clir o weledigaeth, gyda’r egni a’r ymroddiad i ddatblygu’r ysgol a sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob disgybl, gyda ffocws clir ar ddeilliannau disgyblion, lles a sicrhau rhagoriaeth
Dealltwriaeth glir o faterion cwricwlaidd allweddol cenedlaethol a lleol cyfredol
Sgiliau rhyngbersonol cryf i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda’r corff llywodraethol.
Bydd unrhyw ymgeisydd nad yw’n bennaeth ar hyn o bryd yn gorfod dal cymhwyster CPCP ar adeg y penodiad.
Mae’r swydd hon yn destun Datgelu Uwch (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
ISR L7-13
Dyddiad cau’r swydd -5.5.26
Tynnu’r rhestr Fer -6.5.26
Cyfweliadau -21 a 22 o Fai
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld a’r ysgol, cysylltwch ag Elin Fry yr Uwch Ymgynghorydd Gwella i drefnu apwyntiad drwy e-bostio
Safeguarding Statement
Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.
This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone’s business whether they work for, or on behalf of the Council.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu’r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a’r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
…
