Teitl y Rôl: Rheolwr/wraig Adeilad, Cadwraeth a Pheirianneg
Cyflog: £42,910 – £45,610 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb: Parhaol
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Mae'r tîm Gweithrediadau Busnes yn gofalu am seilwaith a gwasanaethau adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r tîm yn gwella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd yr adeilad yn barhaus er mwyn diogelu'r tirnod hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ar ddechrau 2025, llwyddodd y tîm i gyflawni achrediad ISO14001 mewn rheolaeth amgylcheddol gan gydnabod y gwaith gwych a wnaed hyd yma.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
- Gan adrodd i'r Pennaeth Gweithrediadau Busnes, byddwch yn gyfrifol am reoli Cynllun Rheoli Asedau Cyfalaf CMC i sicrhau bod yr asedau'n cael eu cynnal a'u cadw'n gynaliadwy a'u gweithredu'n effeithlon.
- Byddwch yn rheoli prosiectau cyfalaf a di-gyfalaf, naill ai'n uniongyrchol neu wedi'u dirprwyo i gontractwyr allanol, gan hwyluso diffiniad prosiectau o ran cwmpas, nodau a chyflawniadau, yn diffinio gofynion o ran adnoddau ac yn datblygu cynlluniau prosiectau ar raddfa lawn, rheoli cyllidebau prosiectau a monitro cynnydd.
- Byddwch yn cyfarwyddo strategaeth rheoli ynni CMC, gan gynnwys gosod targedau cyfleustodau, monitro a thargedu yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a gytunwyd ymlaen llaw, a hyrwyddo technoleg effeithlon o ran ynni lle bynnag y bo modd.
- Bydd disgwyl i chi ddarparu gwybodaeth arbenigol am beirianneg y safle yn ôl yr angen er mwyn cynnal parhad peirianneg, gan sicrhau bod llawlyfrau gweithredu a chynnal a chadw, lluniadau safle a dogfennaeth beirianneg yn cael eu harchifo i sicrhau cynaliadwyedd yr adeilad yn y dyfodol.
- Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Bydd gennych radd mewn peirianneg a/neu arbenigedd peirianneg cyfatebol a gafwyd mewn amgylchedd adeiladu.
- Bydd gennych brofiad amlwg o reoli a chyflawni cynllun Capital 50.
- Sgiliau rheoli ariannol a chyllidebol profedig.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am gyflawni mentrau cynaliadwy ac ecogyfeillgar i gefnogi strategaeth gynaliadwyedd CMC.
- Y gallu i gydweithio'n rhagweithiol ag ystod eang o bartneriaid CMC, yn fewnol ac yn allanol.
Gwnaetholi Buntyd
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
- Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol.
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth).
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi.
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol.
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol.
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau.
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion.
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan.
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein.
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).
Teitl y Rôl: Rheolwr/wraig Adeilad, Cadwraeth a Pheirianneg
Cyflog: £42,910 – £45,610 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb: Parhaol
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Mae’r tîm Gweithrediadau Busnes yn gofalu am seilwaith a gwasanaethau adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r tîm yn gwella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd yr adeilad yn barhaus er mwyn diogelu’r tirnod hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ar ddechrau 2025, llwyddodd y tîm i gyflawni achrediad ISO14001 mewn rheolaeth amgylcheddol gan gydnabod y gwaith gwych a wnaed hyd yma.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
- Gan adrodd i’r Pennaeth Gweithrediadau Busnes, byddwch yn gyfrifol am reoli Cynllun Rheoli Asedau Cyfalaf CMC i sicrhau bod yr asedau’n cael eu cynnal a’u cadw’n gynaliadwy a’u gweithredu’n effeithlon.
- Byddwch yn rheoli prosiectau cyfalaf a di-gyfalaf, naill ai’n uniongyrchol neu wedi’u dirprwyo i gontractwyr allanol, gan hwyluso diffiniad prosiectau o ran cwmpas, nodau a chyflawniadau, yn diffinio gofynion o ran adnoddau ac yn datblygu cynlluniau prosiectau ar raddfa lawn, rheoli cyllidebau prosiectau a monitro cynnydd.
- Byddwch yn cyfarwyddo strategaeth rheoli ynni CMC, gan gynnwys gosod targedau cyfleustodau, monitro a thargedu yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a gytunwyd ymlaen llaw, a hyrwyddo technoleg effeithlon o ran ynni lle bynnag y bo modd.
- Bydd disgwyl i chi ddarparu gwybodaeth arbenigol am beirianneg y safle yn ôl yr angen er mwyn cynnal parhad peirianneg, gan sicrhau bod llawlyfrau gweithredu a chynnal a chadw, lluniadau safle a dogfennaeth beirianneg yn cael eu harchifo i sicrhau cynaliadwyedd yr adeilad yn y dyfodol.
- Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Bydd gennych radd mewn peirianneg a/neu arbenigedd peirianneg cyfatebol a gafwyd mewn amgylchedd adeiladu.
- Bydd gennych brofiad amlwg o reoli a chyflawni cynllun Capital 50.
- Sgiliau rheoli ariannol a chyllidebol profedig.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am gyflawni mentrau cynaliadwy ac ecogyfeillgar i gefnogi strategaeth gynaliadwyedd CMC.
- Y gallu i gydweithio’n rhagweithiol ag ystod eang o bartneriaid CMC, yn fewnol ac yn allanol.
Gwnaetholi Buntyd
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
- Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol.
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth).
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi.
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol.
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol.
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau.
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion.
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan.
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein.
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).
#J-18808-Ljbffr…
