Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 21 Gorffennaf 2025
Rhif swydd: 201583
Y rôl
Fel Arweinydd y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd uchel i randdeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau trwyddedu rheoleiddiol cadarn, sy’n seiliedig ar risg, yn cael eu gwneud ledled Cymru, gyda’ch arbenigedd yn tanategu ac yn cynnal y gwaith hanfodol hwn.
Gan arwain tîm ymroddedig o saith gweithiwr proffesiynol, byddwch yn eu rheoli a’u cymell i gyflawni portffolio amrywiol o drwyddedau rhywogaethau, sy’n amrywio o ran cymhlethdod a graddfa. Bydd eich arweinyddiaeth yn allweddol wrth gynnal gwasanaeth trwyddedu cyson, effeithlon ac arbenigol.
Mae cydweithio yn ganolog i’r rôl hon. Byddwch chi a’ch tîm yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu ehangach, gan feithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi gwaith tîm, effeithlonrwydd a chryfderau unigol pob aelod o’r tîm. Byddwch hefyd yn cydweithio â rhannau eraill o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys y timau cynghori ar rywogaethau, timau polisi bioamrywiaeth, a’r tîm dulliau rheoliadol, gan helpu i lunio a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, ac arferion gorau.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn rheoli enw da Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau aliniad â gweithgareddau sefydliadol a llywodraethu ehangach sy’n gysylltiedig â chyfundrefn rheoleiddio rhywogaethau ledled Cymru. Yn ogystal, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o adfer costau ar gyfer gwasanaethau trwyddedu pan fo’n berthnasol, yn gyrru gwelliant parhaus o ran prosesau a safonau, ac yn rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth sy’n dod i’r amlwg a’i goblygiadau posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicholas Bettinson drwy anfon neges at .
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r tîm rhywogaethau yn un o sawl tîm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, mae ein penderfyniadau’n helpu i gyflawni gweledigaeth ein cynllun corfforaethol ar gyfer Cymru yn 2030 fel gwlad lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Darperir gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid yn unol â thargedau lefel gwasanaeth, gan asesu a phenderfynu ar geisiadau cymhleth am drwyddedau rhywogaethau, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau, prosesau a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r tîm yn cyfrannu’n weithredol at waith datblygu strategol, gan sicrhau bod trwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth a gofynion rheoleiddiol sy’n esblygu. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn addasu i heriau newydd a sicrhau bod ein prosesau trwyddedu yn parhau i gefnogi datblygu cynaliadwy.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio .
Gofynion y Gymraeg
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
…
