Rheolwr Llywodraethu a Gweithrediadau'r Rhaglen Manylion Swydd (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Company: The Open University
Apply for the Rheolwr Llywodraethu a Gweithrediadau'r Rhaglen Manylion Swydd (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
Location: Cardiff
Job Description:

Rheolwr Llywodraethu a Gweithrediadau'r Rhaglen Manylion Swydd (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byrhwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd chi i wefan YouTube).

Y Rl

Mae Rheolwr Llywodraethu a Gweithrediadaur Rhaglen yn darparu arweinyddiaeth weithredol ac arweinyddiaeth sicrwydd ar lefel uwch ar gyfer rhaglen TAR Cymru, gyda chyfrifoldeb dros lywodraethu, cydymffurfiaeth reoleiddiol a goruchwyliaeth weithredol or dechrau ir diwedd ar draws cylch bywyd y myfyriwr. Gan weithredu ar Radd 7, maer rl yn arwain portffolios penodedig gyda lefel uchel o ymreolaeth, gan reoli gweithgarwch rheoleiddiol cymhleth a defnyddio barn broffesiynol mewn meysydd o risg sefydliadol ac enw da.

Gan weithio ar draws amgylchedd cymhleth syn seiliedig ar bartneriaethau, mae deiliad y swydd yn sefydlu ac yn cynnal trefniadau cynllunio, adrodd a monitro cadarn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ragweithiol, parodrwydd ar gyfer arolygiadau, a sicrwydd o safonau academaidd a gweithredol. Maer rl yn darparu arweinyddiaeth weithredol glir ar draws y tm, gan sicrhau bod systemau, prosesau a data yn ddibynadwy, yn amserol ac yn addas at y diben.

Drwy gryfhau llywodraethu a sicrwydd gweithredol, maer rl yn gwella gwydnwch a pharhad y rhaglen, gan alluogir Uwch Reolwr Gradd 8 i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth strategol a datblygiad tymor hir y rhaglen. Maer swydd hefyd yn cadw hyblygrwydd i gefnogi darpariaeth ehangach y rhaglen a chydlynu ar draws timau mewn ymateb i flaenoriaethau syn dod ir amlwg ac anghenion capasiti.

Beth yw rhaglen TAR y Brifysgol Agored?

Mae Tystysgrif l-raddedig mewn Addysg (TAR) ym Mhrifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig llwybr hyblyg ir proffesiwn addysgu syn cyfuno dysgu ar-lein, seminarau byw a phrofiad mewn ysgolion, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Caiff y rhaglen ei chyflwyno ar sail ran-amser ac yn seiliedig ar gyflogaeth, ar draws Cymru gyfan, ac mae ar gael yn y Gymraeg ar Saesneg, gyda chefnogaeth rhwydwaith cryf o ysgolion partner. Gyda chenhadaeth glir i ehangu mynediad, amrywior gweithlu addysgu a chynyddur ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, rydym yn cefnogi dysgwyr newydd ac yn cydweithion agos ag ysgolion partner ar draws holl ranbarthau Cymru.

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd angen i ddeiliad y rl gymhwyso disgyblaeth gref mewn rheoli prosiectau, gan sicrhau cynllunio clir, cydlynu rhanddeiliaid, rheoli risg, goruchwyliaeth ar ddarpariaeth, a chwblhaun amserol yr holl ofynion rheoleiddiol, llywodraethu a sicrhau ansawdd. Bydd deiliad y rl yn datblygu ystod o systemau monitro a sicrhau ansawdd syn gweithredu er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol syn diwallu anghenion rhanddeiliaid allanol.

Parodrwydd Rheoleiddiol ac Arolygu

  • Arwain gweithgarwch parodrwydd ar gyfer arolygiadau ac achredu, gan sicrhau cydymffurfiaeth barhaus drwy gynllunio effeithiol, rheoli tystiolaeth ac olrhain camau gweithredu.
  • Dal perchnogaeth or dechrau ir diwedd dros y cylch achredu, gan gynnal sylfaen dystiolaeth fyw syn cyd-fynd disgwyliadaur Cyngor Gweithlu Addysg.
  • Dehongli fframweithiau rheoleiddiol ac arolygu, darparu cyngor awdurdodol, a chydlynu cyflwyniadau o ansawdd uchel ar gyfer adolygiad allanol ac arolygiadau.

Llywodraethu

  • Rheoli trefniadau llywodraethur TAR, gan gynnwys pwyllgorau a grwpiau gwaith, gan sicrhau agendu effeithiol, papurau o ansawdd uchel, olrhain camau gweithredun glir a chyfarfodydd syn canolbwyntio ar benderfyniadau.
  • Arwain cylchoedd sicrhau ansawdd ar lefel y rhaglen, gan gydlynu cynllunio, tystiolaeth ac adrodd yn unol safonaur Brifysgol ar rhaglen.
  • Dadansoddi data i nodi risg, llywio penderfyniadau a chefnogi gwelliant parhaus, gan gynhyrchu adroddiadau mewnol ac allanol yn l yr angen.

Gweithrediadaur Rhaglen a Sicrwydd

  • Darparu goruchwyliaeth weithredol ar weithgarwch sicrhau ansawdd a sicrwydd y rhaglen, gan gydlynu prosesau cynllunio, tystiolaeth, adrodd a rheoli gwybodaeth.
  • Dadansoddi data a chyfrannu at adroddiadau er mwyn cefnogi cyflawni targedau a deilliannau o fewn strategaeth bum mlynedd TAR Cymru.

Cefnogaeth i Bartneriaid, Rhanddeiliaid ac Uwch Reolwyr

  • Gweithion gydweithredol chydweithwyr academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phartneriaid allanol i sicrhau darpariaeth effeithiol y rhaglen a chydbwysedd clir o rolau a chyfrifoldebau.
  • Cynrychiolir rhaglen mewn cyfarfodydd llywodraethu, gweithredol a phartneriaeth yn l yr angen.
  • Darparu cefnogaeth ragweithiol o ran llywodraethu a gweithrediadau ir Uwch Reolwr Gradd 8, gan ragweld risgiau a phwysau capasiti a chyfrannu at gynllunior rhaglen, ei gwella ai chynaliadwyedd tymor hir.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • Profiad o reoli prosesau gweithredol, llywodraethu neu reoleiddiol cymhleth o fewn addysg uwch, y sector cyhoeddus neu amgylchedd syn seiliedig ar bartneriaethau.
  • Profiad o weithio o fewn y sector cyhoeddus neu addysg yng Nghymru, gyda dealltwriaeth or cyd-destun rheoleiddiol a phartneriaethol.
  • Gallu cryf mewn rheoli prosiectau a rhaglenni, gan gynnwys cynllunio, rheoli risg, blaenoriaethu a chydlynu ar draws timau.
  • Profiad o waith syn ymwneud llywodraethu, cydymffurfiaeth, sicrhau ansawdd neu aliniad rheoleiddiol.
  • Profiad o gynhyrchu, cydlynu neu sicrhau dogfennau o bwys uchel (e.e. arolygiadau, achredu, archwiliadau neu gyflwyniadau rheoleiddiol).
  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a defnyddio data a thystiolaeth i gefnogi penderfyniadau gweithredol a gwelliant parhaus.
  • Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol, gyda sylw cryf i fanylion ar gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol dan bwysau.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gan gynnwys y gallu i ddehongli polisi a chyfleu gwybodaeth gymhleth yn glir i ystod eang o gynulleidfaoedd.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf, gydar gallu i ddylanwadu, herio a chefnogi cydweithwyr ar bob lefel.
  • Y gallu i weithio gyda lefel uchel o ymreolaeth, gan gyfrannun effeithiol at flaenoriaethaur tm ar rhaglen yn ehangach.
  • Y gallu i gyflawni'r rl mewn modd sy'n gyson deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisau'r Brifysgol.

Dymunol:

  • Cymraeg rhugl (llafar ac ysgrifenedig) neu brofiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog.
  • Profiad o weithio gyda fframweithiau arolygu, achredu neu reoleiddio (e.e. Estyn, CGA neu gyrff tebyg).
  • Profiad o rolau sicrhau ansawdd, llywodraethu neu reoleiddiol o fewn sectorau tebyg.
  • Profiad o reoli data, pecynnau tystiolaeth neu systemau rheoli dogfennau.
  • Profiad o ysgrifennu adroddiadau neu ddadansoddiadau ar gyfer llywodraethu mewnol a rhanddeiliaid allanol.
  • Profiad o weithio ym maes addysg gychwynnol athrawon, rhaglenni proffesiynol neu ddarpariaeth syn seiliedig ar bartneriaethau.
  • Profiad o arwain neu gyfrannu at weithgarwch gwella prosesau neu newid sefydliadol.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas 'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rl, cysylltwch ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr pholisau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld 'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rl hon wedi'i lleoli yn l y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod tua un diwrnod yr wythnos, gyda diwrnodau ychwanegol yn l yr angen i gefnogi blaenoriaethau gweithredol, cyfarfodydd a darpariaeth y rhaglen. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd deithio ledled Cymru i fynd i gyfarfodydd partneriaeth, cyfarfodydd llywodraethu a chyfarfodydd rhanddeiliaid.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.

Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen ganlynol/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rl hon fel y nodir uchod.

Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Posted: May 21st, 2026