Cysylltydd Cymunedol Cymraeg

Company: Severn Trent
Apply for the Cysylltydd Cymunedol Cymraeg
Location: Wales
Job Description:

Department:

Customer Hub Salary (£): £, – £, Cysylltydd Cymunedol Cymraeg

GADEWCH I NI FYND ATI’N SYTH

Helo! Rydyn ni yn Hafren Dyfrdwy, un o’r cwmni dŵr a dŵr gwastraff rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gwasanaethu dros , o gartrefi a busnesau ledled canolbarth a cogledd Cymru, ac mae ein ffocws parhaus ar gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid, nawr ac am genedlaethau i ddod.

Gan gyflogi dros o bobl, rydym yn gwmni lleol wedi’i leoli yng nghanolbarth a gogledd Cymru sy’n darparu dŵr glân bob tro y mae ein cwsmeriaid yn troi’r tap ymlaen i’w ddychwelyd i afonydd hyd yn oed yn lanach nag yr oeddem wedi’i gymryd, rydym yn falch o ofalu am un o hanfodion bywyd.

Rydym yn angerddol dros sicrhau llesiant cenedlaethau yn ein rhanbarth, ac o fewn Cymru gyfan, yn y dyfodol, ac mae chwarae ein rhan wrth gefnogi’r nodau llesiant yn ganolog i’n strategaeth. Mae yna rywbeth i bawb yma mewn gwirionedd.

Os ydych chi eisiau gwneud mwy, oherwydd eich bod chi’n gofalu, rydyn ni eich eisiau yn ein tîm.

GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI

Yn Hafren Dyfrdwy rydym yn falch o gefnogi’r iaith Gymraeg, dyna pam rydym yn gyffrous i rannu cyfle i chi ymuno â’n tîm fel Cysylltydd Cymunedol Cymraeg.

Bydd y rôl hon yn gyfrifol am weithio gyda’n cwsmeriaid a sefydliadau allanol wyneb yn wyneb i gyflawni ein strategaethau Cymuned a Bregusrwydd ar draws ein rhanbarth, ynghyd â darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol i dimau rheng flaen ar sut y gallwn gefnogi’r rhai mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Eich cyfrifoldebau allweddol wrth ein cynorthwyo ar ein taith fydd: 

  • Trefnu, rheoli a chynnal digwyddiadau cymunedol allanol yn annibynnol neu mewn partneriaeth â sefydliadau allanol.
  • Cefnogi ein timau sy’n delio â chwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau neu pan fyddant yn nodi cwsmeriaid a allai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
  • Nodi gwelliannau, a’u rhoi ar waith, i brofiad y cwsmer er mwyn cefnogi fforddiadwyedd a gyrru effeithlonrwydd o fewn y timau gweithredol.
  • Tracio perfformiad cynlluniau a gwasanaethau cymorth i sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu cyflawni.
  • Byddwch wedi’ch lleoli yn ein Pencadlys Packsaddle yn Wrecsam ond byddwch allan yn ymweld â’n cymunedau a’n rhanddeiliaid llawer o’r amser. Byddwch chi’n gweithio o fewn tîm bach ymroddedig a chan fod hon yn rôl mor hanfodol, rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â ni awr yr wythnos, yn gweithio ar draws ystod o amseroedd a allai gynnwys gyda’r nos a phenwythnosau.

    SUT RYDYM NI’N GWEITHIO

    Byddwch chi’n ymuno â diwylliant gofalgar sy’n cydweithio i gyflawni, tyfu a datblygu. Mae ein sgoriau ymgysylltu â chyflogeion ymhlith yr uchaf yn fyd-eang ym maes ynni a chyfleustodau. Dyna pam, rydym yn gwerthfawrogi eiliadau wyneb yn wyneb i gadw ein diwylliant yn fyw, ond hefyd yn deall yr hyblygrwydd y gall gweithio o gartref ei gynnig. Felly, fel arfer byddwch chi’n dod o hyd i ni yn y swyddfa, ond mae gweithio o gartref yn cael ei gefnogi, pan fydd ei angen arnoch chi.

    BETH RYDYM NI’N CHWILIO AMDANO

    I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon rhaid i chi allu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

    Hoffem i chi gael hyder wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ar draws y busnes ac yn allanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd adweithiol dan bwysau – yn fewnol ac yn allanol gydag aelodau’r cyhoedd.

    Bydd angen i chi aros yn ddiffwdan o dan bwysau a gallu gweithio’n annibynnol. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau o addysg i gyflogadwyedd. Gallech fod mewn ysgol yn cyflwyno i wahanol grwpiau oedran am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch chi’n fflysio’r toiled, neu’n siarad â grwpiau cymunedol am gymorth gyda biliau dŵr a ffyrdd o arbed dŵr. Felly, mae hyder wrth gyflwyno yn bendant yn rhywbeth sydd ei angen arnom.

    Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well. Rydym yn chwilio am bobl sy’n bwrw iddi, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, a gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw’n malio.

    SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI 

    Nid swydd yn unig yw hon; mae’n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy’n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i’ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi’n cyfrannu at yr amgylchedd a’r gymuned hefyd. Dyma rai o’n ffefrynnau ni:

  • diwrnod o wyliau + gwyliau banc (a’r gallu i brynu/gwerthu hyd at diwrnod y flwyddyn)
  • Cynllun bonws blynyddol (hyd at £,, sy’n amodol ar gymhwysedd)
  • Polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd (gan gynnwys blwyddyn i ffwrdd o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu â thâl llawn)
  • Cynllun pensiwn blaenllaw
  • Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau Severn Trent plc am bris gostyngol
  • Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol gyda’n Hacademi
  • Cynllun cerbydau trydan a chynigion manwerthu
  • AMDANI

    Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedi’i ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn gwirio ceisiadau drwy’r adeg a dywedwch I chi y ganlyniad unwaith y bydd eich CV wedi’w adolygu, felly cadwch llygad ar eich ffôn a’ch negeseuon ebost.

    Posted: June 1st, 2026