Darlithydd mewn Rheoli Prosiectau (2526298)

Company: Cardiff Metropolitan University
Apply for the Darlithydd mewn Rheoli Prosiectau (2526298)
Location: Cardiff
Job Description:

Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn un o bum ysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Wedi’n lleoli ar Gampws Llandaf ac yn ein cyfleuster o’r radd flaenaf ger calon y brifddinas, rydym yn cynnig ystod eang o raglenni ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Brifysgol (Strategaeth 2030).

Mae YRC yn ddarparwr addysg Busnes a Rheolaeth uchelgeisiol ac achrededig. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheolaeth a’r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau.

Yn 2024, daeth yr Ysgol y Brifysgol gyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth am yr effaith economaidd gadarnhaol sydd gan yr Ysgol ar Ranbarth Prifddinas Caerdydd.

Mae’r Ysgol yn falch o’r rôl y mae’n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda thua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli yn ein partneriaid TNE rhyngwladol, mae’r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd gofn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflwyno ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno’r MSc Rheoli Prosiectau a meysydd eraill o’n cwricwlwm craidd, gan gynnwys yr MBA, yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Byddai’n fantais pe bai gennych brofiad i gefnogi meysydd newydd posibl o ddatblygu cwricwlwm.

Yn frwdfrydig dros addysgeg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ganlyniadau graddedigion, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Disgwylir i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a bodloni’r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.

Beth rydym yn chwilio amdano

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Rheoli Prosiectau neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu ar raglenni perthnasol yn hanfodol.

Er mwyn llwyddo byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a’ch gwybodaeth am y pwnc fel y dangosir trwy eich cymwysterau a’ch profiad.

  • Lefel dda o wybodaeth sy’n berthnasol i’r pwnc a’r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
  • Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgareddau ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
  • Y gallu i ddylunio deunyddiau addysgu a dysgu a defnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i nodi meysydd i’w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amrywiaeth o ffyrdd – cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyfoeddiadau, adborth ac ati.
  • Profiad o addysgu AU neu gyfwerth.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora rheng gyntaf i gydweithwyr eraill.
  • Gradd anrhydedd dda a chymhwyster Doethuriaeth.
  • Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).

Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn

Parhaol

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 1st, 2026