Y SwyddGwneud amrywiaeth o dasgau ystadegol a dadansoddol sy’n ymwneud â chyhoeddi data Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, a chynnal a diweddaru Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sydd ill dau yn ymrwymiadau yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys paratoi crynodebau ac adroddiadau ystadegol.Cyfrifoldebau’r swydd
- Diweddaru data a dadansoddiadau ysgrifenedig ar gyfer mesurau unigol yn Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, drwy ddefnyddio methodolegau cyfredol neu newydd, er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth wedi’i chyhoeddi i fonitro sut caiff blaenoriaethau acuchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru eu cyflawni a’u heffaith.
- Cynhyrchu ystadegau Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, drwy ddefnyddio sgiliau codio a rhaglennu fel R neu Python, i ddarparu allbynnau dadansoddol.
- Cyfrannu at gynhyrchu allbwn ystadegol, drwy gynnal dadansoddiad ystadegol, adolygu ystadegau, paratoi adroddiadau ac ateb ymholiadau, i sicrhau bod data dibynadwy yn cael ei gyhoeddi.
- Cefnogi ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gyflwyno data a dadansoddiadau’n rhesymegol ac yn gryno yn y fformat mwyaf priodol, gan gynnwys technegau delweddu data, i grynhoi ac i gyflwyno canlyniadau dadansoddi data i bobl sydd â gwahanol lefelau o wybodaeth dechnegol.
Am bethrydyn ni’n chwilio
- Cymhwyster lefel gradd mewn disgyblaeth rifog berthnasol, felystadegau, ymchwil gymdeithasol neu seicoleg neu brofiad cyfatebol o weithio mewn rôl ystadegol neu wyddor data.
- Profiad amlwg o ddefnyddio technegau mathemategol ac ystadegol wrth weithio gyda setiau data mawr a’u cwestiynu.
- Profiad o ieithoedd rhaglennu fel R neu Python i ddadansoddi data.
- Galludefnyddio Microsoft Excel ac offer dadansoddi eraill ar lefel uwch.
Sgiliau CymraegEr nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.Cyfle CyfartalRydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.”Pwy ydyn niMae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.Y camau nesafEdrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
#J-18808-Ljbffr…
