Mae Gwasanaeth Diogelwch y Senedd yn gyfrifol am gynnal diogelwch pawb sy’n ymweld â’r Senedd neu’n gweithio yno, gan gynnwys swyddogion etholedig a’u staff.
Fel Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch, bydd gennych ran ganolog yn y gwaith o ddiogelu Ystad y Senedd wrth arwain, datblygu a chefnogi ein Harweinwyr Tîm Diogelwch a’n Swyddogion Diogelwch. Byddwch yn sicrhau bod ein gweithrediadau diogelwch yn cael eu cynnal i’r safonau uchaf, gan hefyd ddarparu pwynt cyswllt tawel, proffesiynol a diplomyddol ar gyfer ystod eang o staff, ymwelwyr a rhanddeiliaid.
Mae’r Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch yn rheolwr llinell sy’n gyfrifol am oruchwylio a ddatblygu Arweinwyr Timau Diogelwch a Swyddogion Diogelwch ac am sicrhau bod uniondeb a diogelwch Ystad y Senedd yn cael ei gynnal. Byddwch yn darparu rhyngwyneb proffesiynol i gwsmeriaid, gan ymdrin yn ddiplomyddol ag amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd, boed yn staff neu’n ymwelwyr.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm o bedwar Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch. Er bod pob un o’r pedwar deiliad swydd yn gyfrifol am gyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau gweithredol, mae maes ffocws arbenigol dynodedig i bob rôl hefyd . Ar gyfer y swydd hon, yr arbenigedd hwnnw yw Datblygiad a Lles, a byddwch chi’n arwain y gwaith o hwyluso datblygiad, llesiant a chynnydd staff ar draws y gwasanaeth.
Gan adrodd i’r Uwch Reolwr Diogelwch, byddwch yn gyfrifol am ddarparu perfformiad gweithredol ar lefel uchel (sef Gwasanaeth Diogelwch a Gwasanaeth i Gwsmeriaid) a bydd yn ofynnol i chi ddarparu cefnogaeth, cyfeiriad a chymhelliant i’ch Arweinwyr Tîm a’ch Swyddogion Diogelwch. Bydd disgwyl i chi ddangos parodrwydd i ddysgu, ynghyd â doethineb, gallu rhagorol i weithio mewn tîm, a sgiliau rhyngbersonol, sgiliau arwain a sgiliau rheoli.
Penodol i’r swydd:
- Sgiliau Iaith Cymraeg Lefel 3
- Cefndir profedig ym maes rheolaeth diogelwch gweithredol mewn amgylchedd cymhleth neu broffil uchel
- Profiad o arwain a datblygu timau, yn ddelfrydol mewn gwasanaeth diogelwch.
- Y gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf i randdeiliaid mewnol ac allanol. Y gallu i ymdrin yn ddiplomataidd ac yn broffesiynol ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys staff, ymwelwyr ac Aelodau etholedig.
- Profiad o weithio gyda gwybodaeth gyfrinachol a sensitif
- Profiad o greu neu oruchwylio rhaglenni hyfforddi, rhaglenni dysgu a datblygu, gyda dealltwriaeth o lesiant staff, prosesau lles, ac arferion cyflogaeth cefnogol.
- Meddu ar (neu fod yn barod i ymgymryd â) Gymhwyster Diogelwch perthnasol (e.e. Lefel BTEC mewn Rheoli Diogelwch) neu gymhwyster Iechyd a Diogelwch perthnasol (e.e. tystysgrif gyffredinol y Bwrdd Arholi Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH) neu uwch)
- Profiad o ysgrifennu, trin a thrafod ac adolygu asesiadau risg
#J-18808-Ljbffr…
