Y SwyddGwneud amrywiaeth o dasgau ystadegol a dadansoddol sy’n ymwneud â chyhoeddi data Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, a chynnal a diweddaru Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sydd ill dau yn ymrwymiadau yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys paratoi crynodebau ac adroddiadau ystadegol.Cyfrifoldebau’r swydd
Considering applying for this job Do not delay, scroll down and make your application as soon as possible to avoid missing out.
- Diweddaru data a dadansoddiadau ysgrifenedig ar gyfer mesurau unigol yn Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, drwy ddefnyddio methodolegau cyfredol neu newydd, er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth wedi’i chyhoeddi i fonitro sut caiff blaenoriaethau acuchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru eu cyflawni a’u heffaith.
- Cynhyrchu ystadegau Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, drwy ddefnyddio sgiliau codio a rhaglennu fel R neu Python, i ddarparu allbynnau dadansoddol.
- Cyfrannu at gynhyrchu allbwn ystadegol, drwy gynnal dadansoddiad ystadegol, adolygu ystadegau, paratoi adroddiadau ac ateb ymholiadau, i sicrhau bod data dibynadwy yn cael ei gyhoeddi.
- Cefnogi ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gyflwyno data a dadansoddiadau’n rhesymegol ac yn gryno yn y fformat mwyaf priodol, gan gynnwys technegau delweddu data, i grynhoi ac i gyflwyno canlyniadau dadansoddi data i bobl sydd â gwahanol lefelau o wybodaeth dechnegol.
Am bethrydyn ni’n chwilio
- Cymhwyster lefel gradd mewn disgyblaeth rifog berthnasol, felystadegau, ymchwil gymdeithasol neu seicoleg neu brofiad cyfatebol o weithio mewn rôl ystadegol neu wyddor data.
- Profiad amlwg o ddefnyddio technegau mathemategol ac ystadegol wrth weithio gyda setiau data mawr a’u cwestiynu.
- Profiad o ieithoedd rhaglennu fel R neu Python i ddadansoddi data.
- Galludefnyddio Microsoft Excel ac offer dadansoddi eraill ar lefel uwch.
Sgiliau CymraegEr nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.Cyfle CyfartalRydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.”Pwy ydyn niMae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.Y camau nesafEdrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. xwzovoh Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
…
