Assistant Chief Fire Officer

Company: Mid & West Wales Fire and Rescue Service
Apply for the Assistant Chief Fire Officer
Location: Wales
Job Description:

Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Lleoliad – Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am arweinydd strategol eithriadol i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol.

Mae hon yn rôl ganolog o fewn un o Wasanaethau Tân ac Achub mwyaf a mwyaf amrywiol y DU yn ôl daearyddiaeth. Mae’n gwasanaethu mwy na 900,000 o bobl ar draws canolfannau trefol, cymunedau gwledig, perygl diwydiannol mawr ac arfordir helaeth, ac mae graddfa a chymhlethdod ein amgylchedd gweithredu yn mynnu arweinyddiaeth o’r safon uchaf.

Rydym yn falch o’n rhagoriaeth weithredol. Rydym yr un mor uchelgeisiol ynghylch ein dyfodol.

Mae’r Gwasanaeth yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid strategol- cryfhau gwydnwch ariannol, ymgorffori arweinyddiaeth gynhwysol, moderneiddio darpariaeth gwasanaethau a dyfnhau cydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni’r agenda honno.

Key Qualifications

Rydym yn chwilio am arweinydd strategol profedig sy’n:

  • Rheolwr Brigâd neu’n Rheolwr Ardal Cymwys presennol.
  • Meddu ar gymhwyster Rheoli Digwyddiadau Aur Aml-Asiantaeth (Lefel 4 ICL neu gyfwerth).
  • Medi ar brofiad amlwg o arwain swyddogaethau cymhleth ar raddfa fawr.
  • Callu gweithredu’n hyderus o fewn amgylchedd sy’n atebol yn wleidyddol.
  • Meithrin perthnasoedd adeiladol â chyrff cynrychioliadol a rhanddeiliaid.
  • Arwain newid diwylliannol gyda hygrededd, gwelededd ac uniondeb.

Key Responsibilities

Byddwch yn gyfrifol am yrru perfformiad ar draws eich cyfarwyddiaeth, gan gyfrannu at strategaeth sefydliadol a chyflenwi’n weithredol fel Prif Swyddog ar gyfer y gwasanaeth.

Mae’r rôl hon yn galw am farn gadarn, hygrededd gweithredol a’r gallu i ddylanwadu ar y lefelau uchaf. Mae hefyd yn cynnig cyfle prin – i lunio cyfeiriad gwasanaeth sy’n uchelgeisiol, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn falch o’i bobl.

Mae canolbarth a gorllewin Cymru yn cynnig ansawdd bywyd eithriadol, gan gyfuno her broffesiynol â mynediad at rai o’r tirweddau harddaf yn y Deyrnas Unedig.

Os ydych chi’n gryf eich cymhelliad dros wasanaeth cyhoeddus, yn barod i arwain trwy gymhlethdod ac wedi ymrwymo i fodelu Atebolrwydd, Uniondeb, Parch, Didueddrwydd a Moeseg, byddem yn croesawu eich cais.

Application Information

I gael gwybod mwy a sut i wneud cais ewch i Penna | Jobs neu am drafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon, cysylltwch â Fizza Islam ar Fizza.Islam@LHH.com neu 0141 220 6460.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ddydd Sul 12 Ebrill 2026.

Additional Information

Lawrlwythwch becyn gwybodaeth i ymgeiswyr yma

#J-18808-Ljbffr…

Posted: April 10th, 2026