Rheolwr y Rhaglen Nawdd sy’n arwain y gwaith o noddi portffolio o brosiectau drwy ymgysylltu â chleientiaid a thimau cyflawni i sicrhau bod gwelliannau i asedau a gwasanaethau trafnidiaeth yn cefnogi amcanion datblygu Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Overview
Cyfrifoldebau’r swydd
- Bod yn gyfrifol am noddi prosiectau drwy sicrhau bod gwelliannau i asedau a newidiadau i wasanaethau yn cael eu cyflawni yn erbyn gofynion clir cleientiaid o ran cwmpas, amserlen a chyllideb er mwyn sicrhau gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth Cymru.
- Bod yn atebol am lywodraethu nawdd drwy fethodolegau cylch oes strwythuredig a safon uchel o bethau i’w cyflawni er mwyn dangos rheolaeth.
- Darparu gwerth ychwanegol drwy weld cyfleoedd ar gyfer manteision ychwanegol i gefnogi gwelliannau ym mhrofiad cwsmeriaid.
- Hyrwyddo dull cydweithredol o gyflawni prosiectau drwy weithio’n agos gyda thimau cyflawni a thrydydd partïon i sicrhau bod prosiectau’n rheoli risgiau’n effeithiol ac yn cyflawni yn unol â gofynion.
- Cefnogi timau mewnol a rhanddeiliaid allanol sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaethau rhanbarthol a chyflawni achosion busnes prosiectau drwy gynnal ymgysylltiad cadarnhaol i sicrhau bod cynlluniau newydd yn cael eu hasesu ar gyfer effeithiau ar weithrediadau trafnidiaeth.
- Arwain o ran goruchwylio’r gwaith o gadw at y Dulliau Diogelwch Cyffredin drwy gymeradwyo elfennau i’w cyflawni o ran sicrhau diogelwch systemau er mwyn sicrhau bod TrC yn parhau i gyflawni prosiectau’n ddiogel.
- Bod yn pwynt uwchgyfeirio i’r tîm drwy ddefnyddio prosesau ac awdurdod dirprwyedig i ddatrys problemau’n effeithiol a chynnal y gwaith o gyflawni gofynion cleientiaid.
- Cynrychioli’r rhaglen i’r Timau Arwain Gweithredol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol er mwyn rhoi sicrwydd o gynnydd ac uwchgyfeirio unrhyw faterion i’w datrys pan fo angen.
- Arwain a mentora’r tîm nawdd drwy gynnal asesiad o lwyth gwaith, sgiliau a chymwyseddau, ymgysylltiad y tîm a chynlluniau datblygiad personol i gefnogi tîm effeithiol sy’n llawn cymhelliant.
- Datblygu a chynnal lefel o ragoriaeth mewn nawdd drwy gynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o newidiadau rheoleiddiol a datblygiadau mewn arferion gorau.
What we’re looking for
- Addysg at lefel gradd a phrofiad cyfatebol
- Profiad o noddi a/neu gyflawni prosiectau gan ddefnyddio prosesau seilwaith fel GRIP (Canllawiau Prosiectau Buddsoddi yn y Rheilffyrdd) neu RIBA.
- Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi gwerth uchel.
- Profiad o reoli rhanddeiliaid yn effeithiol.
- Profiad o arwain tîm a rheoli pobl mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym
- Profiad o reoli risgiau cymhleth a chyflawni camau lliniaru effeithiol.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol (ar lafar ac ar bapur) gyda sgiliau dylanwadu da.
- Gwybodaeth am reoliadau iechyd, diogelwch ac amgylddol i gefnogi diwylliant cryf o ddiogelwch.
(Newidiwch yn unol â phob swydd, boed Sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol)
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell dosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.”
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwyd Network T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
#J-18808-Ljbffr…
