Company: Senedd
Location: Cardiff
Posted: May 1st, 2026
Mae'r Ystafell Rheoli Diogelwch (SCR) yn lle canolog pwysig o fewn yr Adran Diogelwch, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu pawb ar yr ystâd.
Prif ddiben y swydd hon yw sicrhau diogelwch yr holl randdeiliaid drwy reoli’n effeithiol a chydgysylltu’r holl systemau diogelwch a chyfathrebu er mwyn cadw pawb yn saff.Drwy gael dau reolwr ymroddedig o fewn yr Ystafell, mae hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd rheolaeth ac ymreolaeth i'n gweithredwyr sydd wedi cael hyffroddiant uchel, sy'n deall gofynion unigryw'r amgylchedd hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf mewn ystafell reoli fodern sydd wedi’i hadeiladu i’r diben, gyda system teledu cylch cyfyng manyleb uchel a uwchraddiwyd yn ddiweddar a system ochr flaen o drin y larymau.
Y tu hwnt i weithredu arferol, un o’r cyfrifoldebau allweddol fydd arwain a chydgysylltu ymatebion i sefyllfaoedd argyfwng gan ddarparu cyfeiriad clir, pendant a di-gyffro i dimau gweithredol a rhanddeiliaid, a sicrhau y caiff gwybodaeth gywir ei throsglwyddo i uwch reolwyr.
Mae rôl y rheolwr ystafell reoli teledu cylch cyfyng yn rôl sy’n datblygu a fydd yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus helpu i lunio strategaeth a gweithdrefnau ar agweddau allweddol ar y rôl. Mae’r patrwm shifft ar gyfer y rôl hon yn seiliedig ar ddydd Llun i ddydd Gwener 7.00 - 15.30 neu 13.30 - 20.00. ond gallai gynnwys rhywfaint o weithio ar benwythnosau/gyda’r nos i ddarparu ar gyfer digwyddiadau neu dderbyniadau mawr.