Business Enabler

Company: Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales
Apply for the Business Enabler
Location: Cardiff
Job Description:

2x Swydd Rhan-Amser (cyfanswm o 37 awr yr wythnos)

Gradd C: Graddfa Cyflog – £36,203 – £41,824 (cyfwerth ag llawn amser)

Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Caerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin) gyda gweithio hybrid

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i’r gwaith a phensiwn cyflog terfynol.

Am y Rôl

Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy swydd ran-amser (e.e. 0.5FTE/0.5FTE neu 04.FTE/0.6FTE) o fewn yr un rôl (gyda’i gilydd yn cyfateb i 1FTE). Gellir llenwi’r swyddi hyn gan ddau unigolyn ar wahân ar sail ran-amser.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n sefydliadau a ariennir, gan weithredu fel partner busnes i helpu i gryfhau eu gwydnwch, eu cynaliadwyedd a’u heffaith. Disgwylir i chi weithio’n annibynnol ond hefyd cydweithio â chydweithwyr ar draws Cyngor Celfyddydau, yn enwedig efo timau y Celfyddydau ac Ymchwil, i nodi anghenion a darparu cefnogaeth wedi’i theilwra. Gallai hyn amrywio o ddylunio hyfforddiant i hwyluso a chyflwyno gweithdai, yn ogystal ag asesu a monitro ceisiadau grant am gymorth. Byddwch hefyd yn cyfrannu at fentrau ar draws y sector, rhaglenni hyfforddiant a datblygiad dulliau newydd o ran datblygiad busnes a gweithredol.

Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol gyda phrofiad o bartneriaeth fusnes neu ddarparu cefnogaeth weithredol annibynnol i sefydgadau. Byddwch yn hyderus wrth lywio heriau cymhleth ac adeiladu perthnasoedd ymddiriedus gyda rhanddeiliaid.

Byddwch efallai yn dod â gwybodaeth arbenigol mewn maes penodol, ond byddwch hefyd yn gyfforddus yn gweithio ar draws disgyblaethau ac yn addasu i anghenion sy’n dod i’r amlwg. Byddwch yn ddadansoddol, yn drefnus, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn ddatryswr problemau.

Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Byddwn yn sicrhau’r gefnogaeth berthnasol i gynnyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant

Rydym yn chwilio am safbwyntiau ffres a lleisiau newydd. Mae eich profiad bywyd yn bwysig yma.

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn ymrwymo i gyfweld â’r holl ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn y manyleb rôl.

Gweithio hyblyg

Gan fod hon yn swydd ran-amser, nodwch yn glir eich patrwm gwaith dewisol yn adran 2 o’r ffurflen gais. Yn ogystal, nodwch yn glir eich cynnig ar gyfer gweithio unrhyw oriau sy’n wahanol i’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno eich cais

Note: Aplications process information has been removed to focus on job responsibilities and requirements.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: May 9th, 2026