Company: Ysgol Gynradd Groeswen Primary School
Location: Cardiff
Ysgol Gynradd Groes-wen Primary School
Swydd: Athro /Athrawes Parhaol
Swydd llawn amser.
Cyflog: Prif Raddfa
Cod y swydd: 50280808
Dyddiad Cau: Mai 13eg
Cyfweliadau: Mai 21ain
Cychwyn: Medi 2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Groes-wen Primary School yn awyddus i benodi athro/athrawesl i ymuno gyda staff arbennig ein hysgol. Mae’r ysgol yn chwilio am berson arloesol, sy’n frwdfrydig, ymroddgar ac egnïol gyda phrofiad o ddysgu disgyblion o bob oedran Cynradd. Bydd disgwyl eich bod yn hyblyg gyda’r potensial i ddysgu gwersi trochi i ddisgyblion, a chefnogi dosbarth trwy CPA a dysgu am ddiwrnod yn absenoldeb yr athro cyfredol pob Dydd Gwener.
Mae'r Ysgol yn ganolbwynt ac yn galon ei chymuned newydd, gan gynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddod â thrigolion newydd a'u teuluoedd at ei gilydd. Ysgol gymunedol groesawgar gydag ethos dwyieithog cryf ydyw, wedi'i leoli'n agos at fwynderau lleol eraill sy'n canolbwyntio ar weithio gydag ac ar gyfer yr ardal breswyl newydd sbon yng Nghaerdydd sef Plasdŵr ar dir i'r dde o Ffordd Llantrisant.
Yr ysgol yw’r gyntaf o'i math yng Nghaerdydd ac yn arloesol gyda'i chynnig o ffrwd addysg 'iaith ddeuol' newydd ochr yn ochr â ffrwd Gymraeg. Felly mae'r ysgol yn ysgol mynediad i ddwy ffrwd sydd yn cynnig 420 o safleoedd i gyd. Yn ogystal, mae 96 o ddarpariaethau meithrin rhan-amser.
Disgwylir sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol er mwyn gallu cydweithio gyda phlant, athrawon a rhieni’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu arwain gweledigaeth gynhwysol a phlentyn-ganolog yr ysgol ac i sefydlu sylfeini cryfion a rhagorol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol ar lawr dosbarth, yn meddu ar ddealltwriaeth arbennig o addysgeg ac yn deall ethos ac egwyddorion cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn agored i geisiadau gan bawb gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso. Gofynnir i ymgeiswyr ymhelaethu ar eu gallu i gyfrannu at y meysydd a nodwyd yn eu llythyron cais.
Mae’r swyddi hyn yn amodol ar Wiriadau Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swyddi gwag hyn yn addas i’w rhannu.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Richard Carbis ar ffon neu drwy e-bost.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
●Yn ymarferydd arloeosol a model rôl i eraill
● Yn gyfathrebwr rhugl a chywir yn y Gymraeg
● yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel;
● gyda disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac o blant;
● yn creu amgylchedd dysgu ysgogol;
● yn gallu dangos profiad o ddysgu rhagorol;
● gyda phrofiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol;
● yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach ein hysgol;
● yn dangos y gallu i weithio ar y cyd gan gyfrannu at ethos yr ysgol;
● yn barod i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol
● yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol o ansawdd uchel
Gallwn gynnig i chi:
• Profiad anhygoel o weithio mewn ysgol unigryw yng Nghymru mewn ysgol newydd sbon danlli mewn ardal newydd yng Nghaerdydd
Categori Iaith yr ysgol yw 2 a 3 sef Ffrwd Iaith Ddeuol a Chymraeg.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais i’r hysbyseb drwy ddewis y botwm “Gwneud Cais Nawr”. Ni fyddwn ond yn derbyn swyddi i’r swydd hon drwy’r cais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon.
Oherwydd ein trefniadau gweithio interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r swydd.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi yn uniongyrchol i'r ysgol erbyn y dyddiad cau.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa heb fod yn is nag OM2, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
● y rhai sy’n 25 oed ac iau;
● y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
● y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
● y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
Safeguarding Statement
Ysgol Gynradd Groeswen Primary School is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.