Company: Ysgol Mynydd Bychan
Location: Cardiff
Posted: May 17th, 2026
Ysgol Mynydd Bychan
Oed 3 –11
Hysbyseb 2 x swydd Cynorthwy-ydd Dysgu Dosbarth
Cyfeirnod y Swydd: ED50279293 & ED50270315
Grade 3 SCP 4-6 (£25,185 - £25989) Pro Rata at 39 weeks per year
32.5 awr yr wythnos
I ddechrau Medi 2026
dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/27
Dewch i ymuno ag Ysgol Mynydd Bychan, ysgol hapus a gofalgar sy’n cynnig croeso cynnes i bawb. Dyma gyfnod cyffrous yn hanes ein hysgol wrth i ni symud i safle newydd ac ehangu ein darpariaeth i fod yn ysgol ddwy ffrwd, fydd yn ein galluogi i gynnig addysg Gymraeg o’r safon orau i fwy o ddysgwyr. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd addysgu brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm, er mwyn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial mewn amgylchedd diogel ac ysbrydoledig. Credwn yn gryf yn ein hethos cymunedol ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar les, cynhwysiant a dysgu creadigol. Os ydych yn angerddol dros gefnogi plant a rhannu ein gweledigaeth, ymgeisiwch i fod yn rhan o’n cymuned arbennig.
Mae’r ysgol lwyddiannus, hapus hon yn chwilio am gynorthwyydd arbennig sydd:
•yn frwdfrydig, ymroddgar ac hyblyg
• â’r gallu i gyfathrebu ac ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg
• yn gallu hyrwyddo ymddygiad positif
• yn medru rhoi cymorth i’r disgybl gyda threfniadau dyddiol y dosbarth a’r ysgol
• yn gallu cyd-weithio’n dda gydag eraill
• â phrofiad o weithio mewn sefydliad / dosbarth arbennig, neu gyda’r dyhead i weithio mewn amgylchedd arbenigol
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC)
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatganiad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Mae'r cyflog hwn yn destun atodiad Cyflog Byw o 1af Ebrill 2026 sy'n codi cyfraddau cyflog i £13.45 yr awr (scp 3 - 5). Bydd yr atodiad hwn yn cael ei adolygu wedyn yn flynyddol ym mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu dynnu'r atodiad Cyflog Byw.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.
Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau i
Os am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mrs Glesni Lloyd
Dyddiad cau: 12.00pm 22nd May 2026
Interview Taking place 2nd June 2026
Os gwelwch yn dda lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais trwy ddewis y botwm “Gwnewch Gais Nawr”.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”. Rydym yn deall y gallech ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
• y rhai sy’n 25 oed ac iau;
• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
Safeguarding Statement
Safeguarding and Child Protection are key priorities for our School and Council. We aim to support children and vulnerable adults to ensure they are as safe as they can possibly be. Our services and schools are committed to ensuring the safety and protection of all children and vulnerable adults, and will take action to safeguard their well-being, and acknowledge that children and vulnerable adults have a right to protection. This is supported in the general ethos of the Council and all schools.
As an equal opportunities employer, we value diversity. Therefore, although not a requirement for application, we welcome and encourage applications from underrepresented individuals including those:
• aged under 25;
• not in employment, education or training;
• from our local communities including in particular disabled individuals, carers and those from the Cardiff BAME and LGBT+ communities;
• ability to communicate fluently in Welsh.