Company: WRAP
Location: Pentwyn
Posted: May 20th, 2026
Math o swydd: Llawn amser parhaol
Lleoliad: Caerdydd, neu gartref os yng Ngogledd Cymru
Gweithio hybrid: Byddwch yn gallu gweithio o gartref a dod i mewn i’r swyddfa i gydweithio â’ch timau yn ôl y galw. Mae ein horiau craidd yn hyblyg, a dydyn ni ddim yn credu mewn diwylliant presenoliaeth. Fe wnawn drafod yr hyn sy’n bwysig i chi yn ystod y broses recriwtio.
Cyflog a Buddion: £45,700 + 10% pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc, wythnos waith 35 awr, hyd at 13 diwrnod fflecsi, yswiriant meddygol preifat, yswiriant bywyd, a llawer mwy!
Dyddiad cau: 22 Mai 2026 am 9.00 y bor. Mae WRAP yn cadw’r hawl i gau’r rôl hon yn gynnar pe derbynnir nifer fawr o geisiadau.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau i’w helpu i ddylunio a gweithredu gwelliannau i’w gwasanaethau ailgylchu, boed hynny’n cyflwyno newid gwasanaeth ledled y sir neu'n mynd i'r afael â phroblem leol.
Sylwer bod y swydd hon yn cynnwys teithio yn ôl yr angen i leoliadau yn y Deyrnas Unedig. Yn achlysurol byddwch yn treulio amser oddi cartref dros nos. Mae angen trwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon gan y byddwch yn ymweld â safleoedd anghysbell nad ydynt yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo'ch oedran, hil, rhyw, niwroamrywiaeth, gallu, credoau, rhywioldeb neu ddewisiadau personol.
#J-18808-Ljbffr