DisgrifiadDogfennau atodolCyflogwrLleoliad
ATHRO/ ATHRAWES CPA (Cyfnod Mamolaeth – 2 dymor)
YSGOL GYMRAEG SANT BARUC
Nifer y Disgyblion: 380 (Oedrannau 3 – 11)
I gychwyn: Medi 2026
Cyflog: MPS/UPS (yn ôl profiad)
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Y Barri
Mae’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Athro/Athrawes CPA cymwys i ymuno â’n tîm ymroddedig am gyfnod mamolaeth o ddau dymor, gan ddechrau ym Medi 2026. Dyma gyfle i addysgwr angerddol sy’n mwynhau addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn ac sy’n awyddus i gyfrannu at gymuned ysgol fywiog.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sy’n:
• ysbrydoli disgyblion ac yn creu profiadau dysgu ystyrlon
• gynnes, yn dangos empathi ac yn ofalgar o eraill
• gadarn a theg, ac sy’n modelu arferion rhagorol
• meddu ar wybodaeth drylwyr o’r byd addysgu gyfredol
• uchelgeisiol ac yn mwynhau her i sicrhau rhagoriaeth
• llawn cymhelliant ac yn gosod disgwyliadau uchel i’w hun ac i’r disgyblion
• hyblyg ac yn hyderus yn addysgu ar draws gwahanol gyfnodau
• gallu cyfathrebu a chydweithio’n wych fel rhan o gymuned glos yr ysgol
• gallu sefydlu a chynnal perthynas bositif gyda rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach
• deall pwysigrwydd cyfrannu’n weithredol at weithgareddau allgyrsiol
• cynnal a chadw ethos Cymreig a safonau uchel yr ysgol
Suti wneud cais:
Cewch ffurflen gais, manyleb person a disgrifiad swydd ar wefan eTeach.
Mae’r swydd yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Rhian Andrew.
Dyddiad cau: 05.06.2026
Cyfweliadau: 15.06.2026
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd….
