DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Ysgol Llanhari
Athro Saesneg
Cyflog: Prif raddfa
Swydd barhaol ar gyfer mis Medi 2026 (neu mor fuan â phosib ar ôl hynny).
Rydym yn chwilio am athro Saesneg a fydd yn tanio brwdfrydedd y disgyblion mewn iaith a llenyddiaeth ac a fydd yn cynnig profiadau allgyrsiol cyffrous i’n disgyblion. Mae hwn yn gyfle euraidd i ymgeisydd sy’n dymuno profiad o ddysgu mewn ysgol hapus, blaengar, llwyddiannus a chynhwysol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio’n agos oddi fewn Adran Saesneg hynod lwyddiannus yr ysgol i ddarparu cwricwlwm a chyfleodd o’r radd flaenaf i’n disgyblion.
Mae canlyniadau Iaith a Llenyddiaeth yr Adran Saesneg mewn arholiadau allanol yn gyson uchel ac mae Llenyddiaeth Saesneg yn bwnc poblogaidd ymhlith disgyblion Safon Uwch yr ysgol. Mae dulliau dysgu ac addysgu’r adran yn arloesol ac rydym yn chwilio am unigolyn brwd all ysgogi’n disgyblion. Darparwn gyfleoedd datblygiad proffesiynol ac anwytho cadarn.
Mae Ysgol Llanhari yn gymuned gyfeillgar ac mae’n ysgol sy’n rhoi bri mawr ar ein safonau uchel ymhob agwedd o fywyd yr ysgol. Fel ysgol sy’n addysgu disgyblion o 3-19 oed ers Medi 2012 rydym yn addysgu y Cwricwlwm i Gymru yn yr adran gynradd a blynyddoedd 7ac 8. Bydd ymrwymiad i gyd-gynllunio profiadau ysgogol i’n disgyblion wrth i ni barhau i ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ar draws yr ysgol, yn hanfodol.
Mae safle Ysgol Llanhari o fewn cyrraedd hwylus i’r M4 o bob cyfeiriad ac mae’r ysgol wedi ei chlustnodi ar gyfer buddsoddiad mewn adeilad newydd drwy Gynllun Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â’r ysgol yn ystod y gwyliau drwy e-bost i drefnu sgwrs anffurfiol gyda Mrs Meinir Thomas, y Pennaeth. Edrychwn ymlaen i glywed gennych!
Dyddiad cau: 12 o’r gloch, hanner dydd, Ddydd Iau, 4ydd o Fehefin 2026.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A CHYNGOR RHONDDA CYNON TAF. YN OGYSTAL Â’R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO’N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae’r Cyngor a’r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a ‘Perthyn’, ein rhwydwaith LHDTQ+.
Safeguarding Statement
Ysgol Llanhari is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion….
