Level 2 Teaching Assistant (Welsh)

Company: Neath Port Talbot County Borough Council
Apply for the Level 2 Teaching Assistant (Welsh)
Location: Port Talbot
Job Description:

Level 2 Teaching Assistant (Welsh)

Job description

I ddechrau: Medi 1af 2026

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU

LEFEL 2 A SWYDD CYNORTHWYYDD AMSER CINIO.

DROS DRO TAN 31ain AWST 2027

 12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio) – 5 bore yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae’r swydd yma am 12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) a 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio), 39 wythnos y flwyddyn.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun, 01 Mehefin 2026

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tregeles for which the ability to speak Welsh is essential

Posted: May 28th, 2026