Department:
Customer Hub Salary (£): £, – £, Cysylltydd Cymunedol Cymraeg
GADEWCH I NI FYND ATI’N SYTH
Helo! Rydyn ni yn Hafren Dyfrdwy, un o’r cwmni dŵr a dŵr gwastraff rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gwasanaethu dros , o gartrefi a busnesau ledled canolbarth a cogledd Cymru, ac mae ein ffocws parhaus ar gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid, nawr ac am genedlaethau i ddod.
Gan gyflogi dros o bobl, rydym yn gwmni lleol wedi’i leoli yng nghanolbarth a gogledd Cymru sy’n darparu dŵr glân bob tro y mae ein cwsmeriaid yn troi’r tap ymlaen i’w ddychwelyd i afonydd hyd yn oed yn lanach nag yr oeddem wedi’i gymryd, rydym yn falch o ofalu am un o hanfodion bywyd.
Rydym yn angerddol dros sicrhau llesiant cenedlaethau yn ein rhanbarth, ac o fewn Cymru gyfan, yn y dyfodol, ac mae chwarae ein rhan wrth gefnogi’r nodau llesiant yn ganolog i’n strategaeth. Mae yna rywbeth i bawb yma mewn gwirionedd.
Os ydych chi eisiau gwneud mwy, oherwydd eich bod chi’n gofalu, rydyn ni eich eisiau yn ein tîm.
GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI
Yn Hafren Dyfrdwy rydym yn falch o gefnogi’r iaith Gymraeg, dyna pam rydym yn gyffrous i rannu cyfle i chi ymuno â’n tîm fel Cysylltydd Cymunedol Cymraeg.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am weithio gyda’n cwsmeriaid a sefydliadau allanol wyneb yn wyneb i gyflawni ein strategaethau Cymuned a Bregusrwydd ar draws ein rhanbarth, ynghyd â darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol i dimau rheng flaen ar sut y gallwn gefnogi’r rhai mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Eich cyfrifoldebau allweddol wrth ein cynorthwyo ar ein taith fydd:
Byddwch wedi’ch lleoli yn ein Pencadlys Packsaddle yn Wrecsam ond byddwch allan yn ymweld â’n cymunedau a’n rhanddeiliaid llawer o’r amser. Byddwch chi’n gweithio o fewn tîm bach ymroddedig a chan fod hon yn rôl mor hanfodol, rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â ni awr yr wythnos, yn gweithio ar draws ystod o amseroedd a allai gynnwys gyda’r nos a phenwythnosau.
SUT RYDYM NI’N GWEITHIO
Byddwch chi’n ymuno â diwylliant gofalgar sy’n cydweithio i gyflawni, tyfu a datblygu. Mae ein sgoriau ymgysylltu â chyflogeion ymhlith yr uchaf yn fyd-eang ym maes ynni a chyfleustodau. Dyna pam, rydym yn gwerthfawrogi eiliadau wyneb yn wyneb i gadw ein diwylliant yn fyw, ond hefyd yn deall yr hyblygrwydd y gall gweithio o gartref ei gynnig. Felly, fel arfer byddwch chi’n dod o hyd i ni yn y swyddfa, ond mae gweithio o gartref yn cael ei gefnogi, pan fydd ei angen arnoch chi.
BETH RYDYM NI’N CHWILIO AMDANO
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon rhaid i chi allu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Hoffem i chi gael hyder wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ar draws y busnes ac yn allanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd adweithiol dan bwysau – yn fewnol ac yn allanol gydag aelodau’r cyhoedd.
Bydd angen i chi aros yn ddiffwdan o dan bwysau a gallu gweithio’n annibynnol. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau o addysg i gyflogadwyedd. Gallech fod mewn ysgol yn cyflwyno i wahanol grwpiau oedran am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch chi’n fflysio’r toiled, neu’n siarad â grwpiau cymunedol am gymorth gyda biliau dŵr a ffyrdd o arbed dŵr. Felly, mae hyder wrth gyflwyno yn bendant yn rhywbeth sydd ei angen arnom.
Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well. Rydym yn chwilio am bobl sy’n bwrw iddi, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, a gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw’n malio.
SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI
Nid swydd yn unig yw hon; mae’n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy’n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i’ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi’n cyfrannu at yr amgylchedd a’r gymuned hefyd. Dyma rai o’n ffefrynnau ni:
AMDANI
Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedi’i ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn gwirio ceisiadau drwy’r adeg a dywedwch I chi y ganlyniad unwaith y bydd eich CV wedi’w adolygu, felly cadwch llygad ar eich ffôn a’ch negeseuon ebost.
…
