Support Worker – CYP Sanctuary

Company: Adferiad Recovery
Apply for the Support Worker – CYP Sanctuary
Location: Wales
Job Description:

Wedi’i leoli yn: Llansamlet, Abertawe

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth newydd sy’n darparu cefnogaeth ymarferol a therapiwtig i blant a phobl ifanc ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, sy’n profi cyfnodau o ofid meddwl mewn lleoliad anghlinigol. Bydd y tîm yn darparu cyngor, arweiniad ac ymyriadau cynnar sy’n anelu at gadw plant a phobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ddiogel a helpu i wella eu lles meddyliol. Mae’r Gweithiwr Cymorth yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc mewn angen. Gan adrodd i’r Uwch Weithiwr Cymorth, mae’r swydd hon yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel a chyfrannu at lwyddiant cyffredinol y gwasanaeth. Mae rôl y Gweithiwr Cymorth yn hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr ymyrraeth briodol sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnodau anodd. Mae’r rol hon yn galw am unigolyn tosturiol a gwydn sy’n gallu darparu arweiniad ac eiriolaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siwr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.

Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01792 816600.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 1st, 2026