Cyflog: £25,809.30 y flwyddyn pro rata
Wedi’i leoli yn: Pen-y-bont ar Ogwr
Diben y Rôl: Mae Llety â Chymorth Craidd a Chlwstwr Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgan. Mae Adferiad yn darparu model adferiad o gymorth tai sy’n cynnwys llety a rennir a chymorth symudol i unigolion sy’n byw’n annibynnol. Bydd staff yn cefnogi unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol ac y bydd angen lefel ganolig o gymorth arnynt i helpu gyda’u hadferiad. Mae’r gwasanaeth wedi’i staffio 7 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys oriau anghymdeithasol. Nod y Rheolwr Gwasanaeth, yr Uwch Swyddog a’r tîm staff fydd annog a galluogi cleientiaid i gyrraedd lefel uwch o annibyniaeth dros gyfnod rhesymol o amser, ac yna hwyluso eu symudiad i fyw’n fwy annibynnol yn y gymuned.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siwr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01792 816600
#J-18808-Ljbffr…
