DevOps Engineer

Company: Transport for Wales
Apply for the DevOps Engineer
Location: Pontypridd
Job Description:

Mae peirianwyr gweithrediadau datblygu (DevOps) yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu ein hamgylchedd cwmwl drwy ddefnyddio offer, amgylcheddau ac arferion.

Yn y rôl hon byddwch yn gyfrifol am sail prosesau datblygu da gan gynnwys rheoli offer ac amgylcheddau profi, rheoli codau canolog, cynnal safonau datblygu ac ysgrifennu cod sy’n awtomeiddio ein hamgylchedd cwmwl.

Cyfrifoldebau’r swydd

  • Adeiladu a chynnal seilwaith cwmwl cyhoeddus drwy ddefnyddio cymysgedd o adnoddau IaaS a PaaS, a ddefnyddir drwy Seilwaith fel Cod (a adeiladwyd yn terraform) i ddarparu llwyfan cwmwl diogel y gellir ei ehangu yn unol ag Egwyddorion Cwmwl TrC.
  • Helpu uwch beirianwyr i gyflwyno newidiadau i biblinellau adeiladu a rhyddhau gan ddefnyddio Azure DevOps yn unol ag egwyddorion CI/CD TrC i sicrhau bod strategaethau lleoli ar gyfer adnoddau yn rhai y gellir eu hailadrodd, yn ddiogel a’u bod ar gael yn hawdd.
  • Bod yn bwynt uwchgyfeirio i is beirianwyr drwy ddarparu arweiniad a chyngor arbenigol drwy ddadfygio a dadansoddi manwl er mwyn gallu mynd ati’n amserol i ddatrys problemau cymhleth sy’n effeithio ar wasanaethau.
  • Rheoli integreiddio rhwng rhaglenni a llwyfannau lletya drwy weithio gyda’r timau diogelwch sy’n gyfrifol am ddylunio rhwydwaith Azure, ffurfweddu a rheoli diogelwch, i sicrhau bod diogelwch y llwyfan yn cael ei gynnal.
  • Defnyddio technolegau cod isel drwy ddefnyddio eich gwybodaeth am Azure a’ch profiad ohono i ddylunio ac adeiladu llif prosesau i awtomeiddio prosesau â llaw yn unol ag Egwyddorion y Cwmwl i sicrhau’r effeithlonrwydd gweithredol gorau posibl.
  • Creu, cynnal ac adolygu dogfennau technegol a chymryd rhan mewn gweithdai rhannu gwybodaeth ar draws y tîm i sicrhau bod modd cynnal cefnogaeth ar gyfer gweithrediadau’r Cwmwl.
  • Profi gweithrediadau newydd cyn eu cyflwyno’n gyffredinol drwy ddefnyddio strategaethau profi â llaw a rhai awtomatig, gan gydweithio pan fydd angen â swyddogaethau Cyflenwi Gwasanaethau a Seiberddiogelwch i sicrhau nad oes unrhyw effaith niweidiol ar weithrediadau byw.

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Arbenigedd Technegol: Profiad o ddylunio, datblygu a chynnal gwasanaethau cwmwl cyhoeddus cymhleth, gyda dealltwriaeth o dechnolegau Gweithrediadau Datblygu a chwmwl Microsoft, gan gynnwys profiad mewn un neu fwy o’r canlynol:
  • Azure IaaS (ee Peiriannau Rhithiol, Cynwysyddion, Rhwydweithiau Rhithiol)
  • Azure DevOps (ee Byrddau, Repos, Piblinellau, Cynlluniau Profi)
  • Arferion Gweithrediadau Datblygu: Profiad o Reoli Adeiladu a Rhyddhau, storfeydd codau a systemau rheoli fersiynau.
  • Rheoli Rhanddeiliaid: Gallu amlwg i gyfleu pwnc technegol i gynulleidfa nad yw’n dechnegol.

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 12th, 2026