Community Engagement Officer

Company: Adferiad Recovery
Apply for the Community Engagement Officer
Location: Cardiff
Job Description:

Lleoliad: Caerdydd

Pwrpas y Rôl:

Dod o hyd i gyfranogwyr cymwys drwy rwydweithio â chyfeirwyr/asiantaethau posibl gan sicrhau tystiolaeth gymhwysedd ddigonol.

Codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth drwy gyflwyniadau, mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau priodol.

Sicrhau bod canlyniadau cofrestru yn cael eu cyflawni ar y targed.

Cofnodi pob gweithgaredd yn gywir gan gynnwys ffurflenni cofrestru cleientiaid a ffurflenni monitro canlyniadau sy’n ofynnol gan y cynllun.

Cyfeirio cyfranogwyr at wasanaethau eraill o fewn y bartneriaeth, ac asiantaethau allanol eraill yn ôl yr angen.

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, nodi anghenion cwsmeriaid mewnol ac allanol ac ymdrechu i ddarparu gwasanaeth prydlon, effeithiol a phersonol.

Hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi, gweithgareddau grŵp a digwyddiadau gwirfoddoli sydd ar gael i’r grŵp cleientiaid.

Sicrhau bod cynlluniau gweithredu yn cael eu cwblhau wrth gofrestru.

Gweithio ochr yn ochr â’r Mentoriaid Cyfoedion i gyflawni nodau ac amcanion y prosiect.

Cefnogi’r Rheolwr Prosiect i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth.

Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siwr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.

Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01792 816600

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 12th, 2026