DisgrifiadCyflogwrLleoliad
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am Swyddog Presenoldeb brwdfrydig a threfnus i ymuno â’r tîm, gyda’r prif ffocws ar hyrwyddo presenoldeb da a sicrhau bod disgyblion yn manteisio’n llawn ar eu cyfleoedd addysgol. Bydd y person llwyddiannus yn gweithio ar draws clwstwr cynradd yr ysgol, gan gefnogi ymyrraethau cynnar, meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd, a chydweithio’n agos â staff ac asiantaethau allanol i wella presenoldeb a lles disgyblion.
Bydd y rôl yn cynnwys monitro a dadansoddi data presenoldeb, dilyn absenoldebau heb eu hegluro, cynnal ymweliadau cartref lle bo angen, a darparu cyngor a chefnogaeth i rieni/gofalwyr. Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd ddefnyddio systemau TG yn effeithiol, cyfrannu at gyfarfodydd perthnasol, a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau’r ysgol, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, a chyfle cyfartal.
Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd presenoldeb i gynnydd disgyblion. Dylai’r ymgeisydd feddu ar gymwysterau sylfaenol da, sgiliau TG effeithiol, a’r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol, ac mae profiad perthnasol o weithio mewn ysgol neu gefnogi presenoldeb yn ddymunol.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd….
