Swyddog Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol

Company: Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
Apply for the Swyddog Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol
Location: Llangefni
Job Description:

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Fel aelod o’r Tîm Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol, cymryd cyfrifoldeb dros weinyddu holl agweddau o waith cyllidol y Gwasanaeth gan gynnwys:

  • Bod pob darparwr yn cael ei dalu’n gywir ac yn amserol.
  • Bod incwm y gwasanaeth yn cael ei gasglu’n gywir ac yn amserol.
  • Cynorthwyo yn weinyddiaeth y gwasanaeth Dirprwy ac Apwynti.
  • Cynorthwyo yn weinyddiaeth y gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol.
  • Gweinyddu cyfrifon a dosbarthiad arian parod i’r Gwasanaethau Oedolion a Phlant.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel safonol boddhaol.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu’n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: June 23rd, 2026