Bydd y swydd hon yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer anghenion cyfreithiol Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan gynghori ar draws pob maes o’r gyfraith (ac eithrio cyfraith eiddo), gyda phwyslais ar gyfraith fasnachol, a bydd yn cynnwys rheoli unrhyw adnoddau cyfreithiol allanol sydd eu hangen i gefnogi materion o’r fath.
Cyfrifoldebau’r swydd
- Cefnogi’r Pennaeth Cyfreithiol ac Yswiriant ar faterion mwy a chymhleth drwy gydlynu cymorth cyfreithiol allanol a gweithio’n annibynnol wrth ddelio â gwaith achos amrywiol o faterion cyfreithiol (gan ganolbwyntio ar faterion cyfraith fasnachol ond hefyd ar feysydd eraill o’r gyfraith, fel ymgyfreitha, caffael; adeiladu; iechyd a diogelwch; cyfraith gyhoeddus a rheoleiddio) i sicrhau bod y busnes yn cael ei gynghori’n briodol bob amser a bod risgiau’n cael eu lleihau / lliniaru.
- Cefnogi’r busnes i gyflawni ei flaenoriaethau strategol drwy weithredu fel partner busnes strategol a chydweithio â chydweithwyr ar draws y busnes, gan gynnwys cymryd rhan mewn timau prosiect traws-swyddogaethol, er mwyn cyflawni’r nodau hynny.
- Cefnogi rheolwyr a chyfarwyddwyr i nodi a lliniaru risgiau yn ôl yr angen drwy ddarparu arweiniad a chyngor, gan weithredu fel arbenigwr pwnc i sicrhau bod TrC a’i is-gwmnïau yn cael digon o wybodaeth am risgiau.
- Ofr o hyfforddiant cyfreithiol i randdeiliaid mewnol ac allanol drwy ddarparu gweithdai a seminarau er mwyn meithrin ymwybyddiaeth a gwybodaeth cyfreithiol yn y busnes.
- Cyfarwyddo a meithrin cysylltiadau â chynghorwyr cyfreithiol trydydd parti i gefnogi ansawdd gwasanaeth a rheoli contractau drwy gyswllt rheolaidd, yn strwythuredig (cyfarfodydd adolygu, ac ati) ac yn anffurfiol i sicrhau bod gwasanaeth o safon uchel yn cael ei ddarparu bob amser.
- Datblygu dealltwriaeth ddofn o’n cyfyngiadau statudol, ein strategaethau sefydliadol a’n sbardunau masnachol drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a sefydliadau mewnol ac allanol i sicrhau bod gennym yr wybodaeth ddiweddaraf.
- Rhoi cyngor i TrC ar faterion cyfreithiol yng nghyd-destun eu buddiannau a’u fframweithiau statudol drwy ddarparu cyngor ac argymhellion cwbl ystyriol i sicrhau bod gofynion TrC yn cael eu cyflawni.
- Dirprwyo ar ran y Pennaeth Cyfreithiol ac Yswiriant mewn cyfnodau o absenoldeb a chyflawni dyletswyddau eraill pan fo angen i sicrhau bod anghenion y sefydliad yn cael eu diwallu a bod y risg i’r busnes yn cael ei lleihau i’r eithaf.
- Gweithredu fel y cyswllt cyntaf a’r prif gyswllt i randdeiliaid o ddydd i ddydd drwy roi cyngor cyfreithiol sy’n canolbwyntio ar fasnach i sicrhau bod y risg i’r busnes yn cael ei lleihau i’r eithaf a bod yr wybodaeth yn gywir ac yn gyson
- Cynhal materion mewn cyflwr sefydliadol da ac yn unol â lefelau ansawdd a gwasanaeth sydd i’w cytuno yn unol ag anghenion y busnes.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Cyfreithiwr neu Weithredwr Cyfreithiol Siartredig, neu’n meddu ar brofiad cyfatebol sylweddol fel Gweithiwr Cyfreithiol Proffesiynol gyda phrofiad ôl-gymhwyso amlwg ym maes cyfraith fasnachol, yn ogystal ag mewn nifer o feysydd cyfreithiol eraill, e.e. ymgyfreitha, caffael, adeiladu, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch.
- Yn brofiadol ac yn hyderus wrth wneud penderfyniadau annibynnol wrth reoli llwyth achosion heb lawer o oruchwyliaeth, gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn amgylchedd prysur.
- Profiad o ddadansoddi a chymhwyso egwyddorion a ffeithiau cyfreithiol i gyflwyno strategaethau masnachol a chyngor technegol cadarn ar gyfer materion cymhleth.
- Y gallu i ddatrys problemau a chwestiynu’r gyfraith a data a gwybodaeth ffeithiol i ganfod gwraidd y problemau, wedi’i ddangos drwy brofiad blaenorol.
- Profiad o gasglu gwybodaeth i ddatblygu dealltwriaeth a dulliau o ateb cwestiynau busnes.
- Profiad amlwg o ymgysylltu â nifer o randdeiliaid a dylanwadu arnynt ar draws gwahanol lefelau busnes, o lefel Weithredol i staff rheng flaen.
- Profiad o ddarparu cymorth a chyngor mewn lleoliad proffesiynol, gan fod yn rhagweithiol wrth adnabod problemau a chanfod datrysiadau ar gyfer y problemau hyn.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
#J-18808-Ljbffr…
