Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Fforensig (2526535)

Company: Cardiff Metropolitan University
Apply for the Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Fforensig (2526535)
Location: Cardiff
Job Description:

Os oes gennych chi gofnod o gyflawniad sy’n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein safle ymchwir ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad a rheolaeth ein rhaglen MSc a addysgir mewn seicoleg fforensig. Mae’r rôl yn cynnwys gweithredu fel Cyfarwyddwr Rhaglen y radd MSc mewn Seicoleg Fforensig (sy’n recriwtio tua 30 o fyfyrwyr y flwyddyn) a chysylltu â Chyfarwyddwr Rhaglen y radd MSc mewn Seicoleg Iechyd (sy’n recriwtio tua 20 o fyfyrwyr y flwyddyn) ar fodiwlau a rennir ac wrth fodloni gofynion y BPS ar gyfer y ddwy raglen. Yn ogystal, disgwylir i chi gyfrannu at gyflwyno’r modiwlau Seicoleg Fforensig ôl-raddedig, modiwlau MSc Seicoleg Iechyd a rennir, ac elfennau o’r rhaglenni BSc Seicoleg a BSc Seicoleg a Throseddeg (yn dibynnu ar eich maes arbenigedd a’ch profiad). Mae rhinweddau eraill yn cynnwys bod yn frwdfrydig dros addysgeg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gwneud cyfraniad sylweddol at broffil ymchwil yr adran, cyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a bodloni’r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.

Beth rydym yn chwilio amdano

  • Gwybodaeth fanwl am bwnc arbenigol a maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth fanwl o addysgeg.
  • Dealltwriaeth fanwl o ymchwil/menter a gweithgaredd ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddylunio, datblygu a chyflwyno ystod o raglenni ar wahanol lefelau.
  • Y gallu i adolygu dyluniad rhaglenni yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau ansawdd a rheoliadau academaidd ac i wneud newidiadau lle bo’n briodol.
  • Y gallu i gyfrannu at gyflawni Cynllun Datblygu’r Ysgol a phrosesau cynllunio strategol y sefydliad.
  • Y gallu i ddatblygu amcanion ymchwil, paratoi cynigion, cynnal ymchwil annibynnol, dyfarnu a chyfrannu at asesu gan gymheiriaid.
  • Y gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad/gwelliant strategol e.e. prosiectau ymchwil, cyrsiau newydd, ymgynghoriaeth.
  • Y gallu i nodi (trwy ddadansoddi gwybodaeth reoli briodol) meysydd sydd angen eu gwella e.e. niferoedd myfyrwyr, boddhad myfyrwyr.
  • Profiad o addysgu AU neu gyfwerth.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora rheng gyntaf i gydweithwyr eraill.
  • Profiad o ymwneud ag ymchwil addysgegol ac ymarferydd.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Cymhwyster doethuriaeth.
  • Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.

Er mwyn bod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a gwybodaeth am y pwnc fel y dangosir drwy eich cymwysterau a’ch profiad.

Cysylltu â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Declan Connaughton (Arweinydd Seicoleg Gymhwysol), ar DConnaughton@cardiffmet.ac.uk.

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.

Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio’r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 24 Jul 2026

Ysgol/Uned: Academaidd

Cyflog: £53,301 to £61,759 y flwyddyn

Parhaol

#J-18808-Ljbffr…

Posted: July 6th, 2026