Area Ranger 29,479 pa

Company: National Trust for Places of Historic Interest or Natural Beauty
Apply for the Area Ranger 29,479 pa
Location: Caernarfon
Job Description:

Rydym yn chwilio am geidwad cefn gwlad profiadol sy’n barod am her newydd! Fel Ceidwad Ardal, byddwch yn gweithio ar reng flaen cadwraeth natur a rheoli tir, gan reoli tîm ymroddgar o geidwaid mewn tirwedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt ac sy’n agos at galonnau pobl.

Cyflog: £29,479 y flwyddyn

Hyd y Contract: Parhaol

Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Yr oriau gweithio craidd yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am tan 4.00pm. Mae yna hyblygrwydd o ran sut mae’r oriau hyn yn cael eu gweithio; fodd bynnag dylai ymgeiswyr ddisgwyl gweithio ar draws pum diwrnod bob wythnos. Mae’n bosibl y bydd gweithio gyda’r nos ac ar benwythnos yn ofynnol o bryd i’w gilydd.

Byddwch wedi’ch lleoli yn Craflwyn, ger Beddgelert, ar gyfer rôl ymarferol sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o dasgau ar draws amrywiol dirweddau a mathau o gynefinoedd, a hynny ym mhob tywydd.

Byddwch yn gweithio’n bennaf ar draws yr ystâd 9,000 erw yn Eifionydd, gyda Beddgelert yn ganolbwynt ac yn ymestyn i Faentwrog, Cricieth a Dinas Dinlle. Mae’r rôl yn cynnwys helpu i reoli a gofalu am amrywiaeth o amgylcheddau, gan gynnwys coetiroedd newydd a hynafol, meithrinfa goed, perllannau, dolydd, pyllau, rhandiroedd a thir amwynderau.

Byddwch yn rhan o dîm bach a chefnogol, gan weithio’n annibynnol o bryd i’w gilydd ac, ar adegau eraill, yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr a thimau o wirfoddolwyr. Bydd y rôl yn golygu cryn dipyn o weithio ar eich pen eich hun, felly bydd angen i chi fod yn hunangymhellol ac yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol.

Bydd eich gwaith yn helpu i warchod a gwella’r dirwedd, gan sicrhau y gall pawb ei mwynhau, am byth.

Responsibilities

  • Cynhal a chadw’r safle a rheoli’r ystâd, gan gynnwys strimio, ffensio, codi waliau cerrig sych, a gosod giatiau a chamfeydd
  • Gweithredu peirianwaith, gan gynnwys gyrru tractor a defnyddio llif gadwyn
  • Rheoli cynefinoedd a thir, gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd, gwaith meithrinfa goed, a rheoli rhywogaethau anfrodorol
  • Dyletswyddau archwilio’r ystâd a dyletswyddau diogelwch, gan gynnwys archwiliadau llwybrau troed, pontydd a diogelwch coed
  • Rheoli bywyd gwyllt a da byw, gan gynnwys rheoli mincod a gwirio stoc (gwartheg a merlod)
  • Dyletswyddau gweithdy a chynnal a chadw cyffredinol
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau bach a rheoli contractau, yn ôl yr angen

Qualifications

  • brofiadol mewn rheoli tir, cadwraeth natur a mynediad i bobl, gan gynnwys cynnal prosiectau bach a goruchwylio contractwyr
  • gyfarwydd â datblygu a rhedeg rhaglenni gwaith er mwyn cyflawni nodau penodol o fewn cadwraeth neu fynediad
  • chwaraewr tîm cryf, gyda hanes profedig yn arwain a rheoli staff a gwirfoddolwyr
  • ymarferol ac yn fedrus wrth ofalu am amrywiaeth o gynefinoedd a thirweddau, gyda thystysgrifau defnyddio llif gadwyn, gyrru tractor a thynnu trelar
  • gallu gweithio’n ddiogel ac arwain ar gydymffurfiaeth – gan gynnwys ysgrifennu asesiadau risg a gweithdrefnau diogelwch ac amgylcheddol
  • hapus i siarad – gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad – â phob math o bobl ynghylch y gwaith rydych chi’n ei wneud a pham ei fod yn bwysig
  • hyfedr o ran cymwysiadau Microsoft safonol, megis Outlook a Word
  • gyrrwr, gyda thrwydded yrru lawn y DU.

Benefits

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o log syrlfaenol
  • Mynediad am ddim eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ichi, gwestaia’ch plant (dan 18 oed)
  • Benthyciad tocynmor
  • Gostyngiadau budion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, cod a gostyngiad siopa, gostyngiadau a ryfer y sin ema
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hydyg gwasanaeth, yn ogystal â chynllun pryn gwyliau, ym modol o adloni am ein prin f gwynnol.

Equal Opportunities Statement

The National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here .

Safeguarding Statement

The National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre.

Please note we reserve the right to close this advert early and therefore we encourage you to apply for this position early.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: July 6th, 2026