Summary
Ceidwad
Fel Ceidwad, byddwch yn hyrwyddwr cadwraeth natur a’r awyr agored, a byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn cadw cefn gwlad ac arfordir gwerthfawr y genedl mewn cyflwr da, er budd bywyd gwyllt a phobl.
Cyflog: £22,089.60 y flwyddyn pro rata (yn seiliedig ar gyfradd gyfwerth ag amser llawn o £27,612 y flwyddyn)
Hyd y Contract: Cyfnod penodol tan 31ain Rhagfyr 2027
Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 30 awr yr wythnos. Er mwyn gwneud y gorau o oriau golau dydd a lleihau pellteroedd cerdded, mae’r rôl yn dilyn patrwm gweithio tymhorol. Yn ystod misoedd yr haf, byddwch yn gweithio tri diwrnod hirach (dydd Llun i ddydd Mercher, 7:00am-5:00pm). Yn y gaeaf, mae hyn yn newid i bedwar diwrnod safonol (dydd Llun i ddydd Iau, 8:00am-4:00pm). Mae’r patrwm yn newid yn unol â’r newidiadau cloc BST/GMT. Bydd gofyn gweithio ar benwythnosau’n achlysurol i oruchwylio grwpiau gwirfoddoli, oddeutu un diwrnod penwythnos y mis ar gyfartaledd.
Dyddiad Cyfweld Posibl: Dydd Llun 20fed Gorffennaf
The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 4 in speaking and listening. Please assess your level by completing the attached Welsh Language Competency Matrix.
The English translation of this advert is available in the attachments.
What it’s like to work here
O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o dîm llwybr troed Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi’ch lleoli yn Nghraflwyn (ger Beddgelert). Bydd eich ffocws yn bennaf ar fynediad a chynnal a chadw llwybrau troed yn Eifionydd, y Carneddau a’r Glyderau.
O bryd i’w gilydd, gofynnir i chi helpu ar yr ystâd ehangach gyda thasgau ymarferol, o ffensio a chodi waliau cerrig sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Byddwch yn gweithio’n agos â thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol; gyda’r mwyafrif ohonynt yn siarad Cymraeg, felly mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Nid oes amheuaeth y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn hardd, ond gall y tywydd yn y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored drwy’r flwyddyn, felly rhaid i chi fod yn barod ar gyfer pob math o dywydd, a bod yn wydn ac yn barod i addasu eich cynlluniau i weithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.
What you’ll be doing
Gan adrodd i’r Ceidwad Ardal, byddwch yn cyflawni’r tasgau ymarferol sy’n ofynnol er mwyn adeiladu a chynnal amrywiaeth o lwybrau troed a seilwaith mynediad yn Eryri, gan sicrhau bob amser eich bod yn cydymffurfio a deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm o wirfoddolwyr, byddwch yn cyfrannu at ein rhaglen cynnal a chadw llwybrau troed uchelgeisiol. Byddai profiad blaenorol o waith saer maen (naddu wyneb carreg, codi waliau cerrig sych etc.) yn hynod o fanteisiol. Byddwch yn gweithio diwrnodau hir yn aml mewn lleoliadau anghysbell, felly bydd angen i chi fod yn fodlon gweithio mewn rhai amodau heriol, ond mae’r buddion yn niferus; mynyddoedd Eryri fydd eich “swyddfa”!
Bydd gennych ddealltwriaeth glir o sut mae eich gwaith yn cyfrannu at strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal ac ysbrydoli miliynau i ofalu am natur, harddwch a hanes.
Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi gael yr holl wybodaeth, yr holl sgiliau na’r holl brofiadau sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; diben y proffil hwn yw dangos yr hyn sy’n bosibl yn y rôl hon.
Who we’re looking for
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych chi’n:
The package
YrarwyddairsyddwrthwraiddyrYmddiriedolaethGenedlaetholyw’Ibawb, ambyth’.Rydymyngweithio’ngaledigreudiwylliantcynhwysol,llemaepawbynteimloeubodynperthyniddo.Mae’nbwysigbodeinpoblynadlewyrchuacyncynrychioliamrywiaethycymunedaua’rcynulleidfaoeddyrydymyneugwasanaethu.Rydymyncroesawuacyngwerthfawrogigwahaniaeth, felly panddywedwneinbodargyferpawb,rydymeisiauibawbdeimlo’ngartrefolyneintimauhefyd.
…
