Area Ranger

Company: National Trust
Apply for the Area Ranger
Location: Caernarfon
Job Description:

Summary

Ceidwad Ardal

Rydym yn chwilio am geidwad cefn gwlad profiadol sy’n barod am her newydd! Fel Ceidwad Ardal, byddwch yn gweithio ar reng flaen cadwraeth natur a rheoli tir, gan reoli tîm ymroddgar o geidwaid mewn tirwedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt ac sy’n agos at galonnau pobl. 

Cyflog: £29,479 y flwyddyn 

Hyd y Contract: Parhaol 

Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Yr oriau gweithio craidd yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am tan 4.00pm. Mae yna hyblygrwydd o ran sut mae’r oriau hyn yn cael eu gweithio; fodd bynnag dylai ymgeiswyr ddisgwyl gweithio ar draws pum diwrnod bob wythnos. Mae’n bosibl y bydd gweithio gyda’r nos ac ar benwythnos yn ofynnol o bryd i’w gilydd. 

The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 5 in speaking and listening and Level 4 in reading and writing. Please assess your level by completing the attached Welsh Language Competency Matrix. 

The English translation of this advert is available in the attachments.

What it’s like to work here

Byddwch wedi’ch lleoli yn Craflwyn, ger Beddgelert, ar gyfer rôl ymarferol sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o dasgau ar draws amrywiol dirweddau a mathau o gynefinoedd, a hynny ym mhob tywydd.

Byddwch yn gweithio’n bennaf ar draws yr ystâd 9,000 erw yn Eifionydd, gyda Beddgelert yn ganolbwynt ac yn ymestyn i Faentwrog, Cricieth a Dinas Dinlle. Mae’r rôl yn cynnwys helpu i reoli a gofalu am amrywiaeth o amgylcheddau, gan gynnwys coetiroedd newydd a hynafol, meithrinfa goed, perllannau, dolydd, pyllau, rhandiroedd a thir amwynderau.

Byddwch yn rhan o dîm bach a chefnogol, gan weithio’n annibynnol o bryd i’w gilydd ac, ar adegau eraill, yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr a thimau o wirfoddolwyr. Bydd y rôl yn golygu cryn dipyn o weithio ar eich pen eich hun, felly bydd angen i chi fod yn hunangymhellol ac yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol.

What you’ll be doing

Bydd eich gwaith yn helpu i warchod a gwella’r dirwedd, gan sicrhau y gall pawb ei mwynhau, am byth. Bydd eich dyletswyddau fel Ceidwad Ardal yn cynnwys: 

  • Cynnal a chadw’r safle a rheoli’r ystâd, gan gynnwys strimio, ffensio, codi waliau cerrig sych, a gosod giatiau a chamfeydd
  • Gweithredu peirianwaith, gan gynnwys gyrru tractor a defnyddio llif gadwyn 
  • Rheoli cynefinoedd a thir, gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd, gwaith meithrinfa goed, a rheoli rhywogaethau anfrodorol
  • Dyletswyddau archwilio’r ystâd a dyletswyddau diogelwch, gan gynnwys archwiliadau llwybrau troed, pontydd a diogelwch coed
  • Rheoli bywyd gwyllt a da byw, gan gynnwys rheoli mincod a gwirio stoc (gwartheg a merlod) 
  • Dyletswyddau gweithdy a chynnal a chadw cyffredinol 
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau bach a rheoli contractau, yn ôl yr angen 
  • Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi gael yr holl wybodaeth, yr holl sgiliau na’r holl brofiadau sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; diben y proffil hwn yw dangos yr hyn sy’n bosibl yn y rôl hon.

    Who we’re looking for

    Rydym yn chwilio am rywun sy’n:

  • brofiadol mewn rheoli tir, cadwraeth natur a mynediad i bobl, gan gynnwys cynnal prosiectau bach a goruchwylio contractwyr 
  • gyfarwydd â datblygu a rhedeg rhaglenni gwaith er mwyn cyflawni nodau penodol o fewn cadwraeth neu fynediad 
  • chwaraewr tîm cryf, gyda hanes profedig yn arwain a rheoli staff a gwirfoddolwyr 
  • ymarferol ac yn fedrus wrth ofalu am amrywiaeth o gynefinoedd a thirweddau, gyda thystysgrifau defnyddio llif gadwyn, gyrru tractor a thynnu trelar 
  • gallu gweithio’n ddiogel ac arwain ar gydymffurfiaeth – gan gynnwys ysgrifennu asesiadau risg a gweithdrefnau diogelwch ac amgylcheddol 
  • hapus i siarad – gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad – â phob math o bobl ynghylch y gwaith rydych chi’n ei wneud a pham ei fod yn bwysig 
  • hyfedr o ran cymwysiadau Microsoft safonol, megis Outlook a Word 
  • gyrrwr, gyda thrwydded yrru lawn y DU.
  • The package

    YrarwyddairsyddwrthwraiddyrYmddiriedolaethGenedlaetholyw’Ibawb, ambyth’.Rydymyngweithio’ngaledigreudiwylliantcynhwysol,llemaepawbynteimloeubodynperthyniddo.Mae’nbwysigbodeinpoblynadlewyrchuacyncynrychioliamrywiaethycymunedaua’rcynulleidfaoeddyrydymyneugwasanaethu.Rydymyncroesawuacyngwerthfawrogigwahaniaeth, felly panddywedwneinbodargyferpawb,rydymeisiauibawbdeimlo’ngartrefolyneintimauhefyd. 

  • Cynllunpensiwnsylweddolhydat 10%ogyflogsylfaenol 
  • Mynediadamddimieiddo’rYmddiriedolaethGenedlaethol,ichi,gwestaia’chplant (dan 18oed) 
  • Cynllunbenthyciadblaendalrhent 
  • Benthyciadtocyntymor 
  • Gostyngiadaubuddionygweithle,h.y.aelodaethgampfa,codaugostyngiadsiopa,gostyngiadauargyferysinema 
  • Lwfansgwyliauhydat 32diwrnodmewnperthynasâhydygwasanaeth,ynogystalâchynllunprynugwyliau,ynamodolarfodlonimeiniprawfgofynnol. 
  • Oriaugweithiohyblygllebynnagybo’nbosibl 
  • Rhaglencynorthwyocyflogai 
  • Parcioamddimynyrhanfwyafoleoliadau 
  • Posted: July 9th, 2026