Teacher (Chemistry) – Ysgol Bro Teifi

Company: Ceredigion County Council
Apply for the Teacher (Chemistry) – Ysgol Bro Teifi
Location: Llandysul
Job Description:

About the role

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’n cyfadran Wyddoniaeth lwyddiannus fel Athro/Athrawes Cemeg ar gytundeb parhaol. Croesewir ceisiadau wrth unigolion sy’n dymuno gweithio yn rhan amser neu yn llawn amser. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon.

Ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus, telir lwfans CAD3e am gyfnod penodedig o ddwy flynedd i gefnogi datblygiad y cwrs Gwyddoniaeth Dwbl TGAU newydd yn yr ysgol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu’r fanyleb Gwyddoniaeth Dwbl, safoni a datblygu asesu mewnol, cefnogi addysgu a dysgu staff, a chefnogi agweddau ymarferol y pwnc. Mae’r lwfans yn gysylltiedig â’r prosiect penodedig hwn yn unig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Addysgu gwersi Cemeg ar draws yr ystod oed uwchradd gan gynnwys y Chweched.
  • Angerddol dros eu pwnc ac at ddysgu.
  • Yn barod i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
  • Addysgwr rhagorol.
  • Ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
  • O weithio yn ein hysgol, cewch fynediad at yr adnoddau dysgu modern, diweddaraf wedi eu darparu mewn ystafelloedd dysgu pwrpasol. I gefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.

    Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol gydol oed naturiol Gymreig ar gyfer disgyblion 3–19 oed, sydd wedi’i lleoli ychydig y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Rydym yn gwasanaethu ardal wledig hardd a chymunedol, tua 45 munud o ddiwedd yr M4, tua 30 munud o Gaerfyrddin a thua 50 munud o Aberystwyth

    Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n hunaniaeth gyda bron i 64% o’n dysgwyr yn defnyddio’r iaith yn y cartref ac rydym yn falch iawn o rôl allweddol yr ysgol wrth gynnal a datblygu’r iaith yn ein cymuned.

    Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

    Pecyn Gwybodaeth

    Os hoffech wybodaeth pellach am y swydd neu os hoffech drefnu ymweliad i’r safle, mae yna groeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth am sgwrs ar unrhyw adeg drwy ffonio’r ysgol ar neu drwy e-bostio

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    What we offer

    Work-life balance

    Lifestyle savings scheme

    Generous employer pension scheme

    Cycle to work scheme

    Learning and development

    Where you’ll work

    Schools and Culture

    We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: 

  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
  • Llandysul Historically, Llandysul was the hub of the Welsh woollen industry where thousands of people were employed in the water driven mills during the industrial revolution.…

    Posted: April 19th, 2026